Vattenfall – Codi ymwybyddiaeth o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Ymgysylltu â’r gymuned

Ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid

Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau

Trosolwg 

Sefydlwyd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd gan gwmni ynni Vattenfall er budd cymunedau ble cynhelir y fferm wynt yng Nghymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon uchaf ac ar eu traws. Mae’r gronfa flynyddol gwerth £1.8m yn cael ei rheoli’n annibynnol gan Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Pen y Cymoedd.

 

Beth wnaethom ni

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Grasshopper wedi cydweithio â Vattenfall a’r CIC i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Gronfa Gymunedol ar y lefel leol er mwyn annog ymgysylltu, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth rhanddeiliaid a’r cyhoedd am effeithiau economaidd-gymdeithasol ehangach y Gronfa a’r fferm wynt.

Mae hyn wedi cynnwys cydlynu cynnwys a chynhyrchu cylchlythyr dwyieithog a ddosbarthwyd i tua 50,000 o drigolion lleol, yn ogystal â darparu cymorth ynghylch cysylltiadau â’r cyfryngau.

 

Canlyniad

Mae’r CIC ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o ffocws a nodau’r gronfa, a bydd y canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod cymunedau’n cael gwybodaeth
  • Cynyddu ymgysylltiad y gymuned â’r gronfa
  • Helpu’r gymuned i ddeall y cysylltiad rhwng y fferm wynt a budd y gronfa gymunedol
  • Hysbysu’r gymuned am beth mae’r gronfa yn ei gyflawni