Taylor Wimpey – Cynnal diwrnod ar gyfer y gymuned yn Stowupland

Ymgysylltu â’r gymuned

Ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid

Strategaeth cyfathrebu

Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau

Cymdeithasol a digidol

Dylunio graffeg a gwasanaethau creadigol

Rheoli digwyddiadau

Trosolwg 

Mae Taylor Wimpey yn paratoi cais amlinellol i adeiladu cynllun preswyl a arweinir gan y dirwedd ym Mhentref Stowupland. Ar adeg yr ymgynghoriad, roedd y safle’n ddyraniad drafft yng Nghynllun Lleol ar y Cyd datblygol Babergh a Chanol Suffolk.

 

Beth wnaethom ni

Fel rhan o gam cyntaf yr ymgynghori a gynhaliwyd gan Taylor Wimpey, fe wnaethom gynnal diwrnod hygyrch a chynhwysol ar gyfer y gymuned â’r nod o sicrhau bod y gymuned yn rhan allweddol o’r rhaglen ymgysylltu.

Bwriedid i’r digwyddiad i fod yn addas i deuluoedd ac roedd y gweithgareddau’n ymwneud â rhai o’r themâu o ddiddordeb allweddol yn ymwneud â’r cynllun megis perllan gymunedol, bioamrywiaeth a theithio llesol. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu blychau ar gyfer chwilod a meddyg beiciau ar y safle.  Hefyd, gellid plygu’r cylchlythyr i breswylwyr er mwyn creu hambwrdd hadau.

I sicrhau bod y digwyddiad yn fwy rhyngweithiol, crëwyd fideo yn lle byrddau arddangos, ochr yn ochr â thrafodaethau bord gron thematig a gynhaliwyd trwy gydol y dydd. 

 

Canlyniad

Roedd y dull gweithredu a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned yn rhan o ymrwymiad ehangach i ymgysylltu â’r gymuned leol a rhoi mwy o berchnogaeth a chyfle i bobl lywio datblygiadau yn eu hardal leol yn ystyrlon.

Mae’r cynlluniau’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd a bydd rhagor o ymgynghori yn digwydd yn dilyn diweddaru’r Cynllun Lleol.