Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Grasshopper Communications wedi ymrwymo i fod yn weithle cynhwysol ac agored, gan groesawu cyflogeion a chleientiaid o bob cefndir.  Rydym yn fodlon cynnal Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r Rheoliadau (Cymru) 2011 dilynol.   

 

Triniaeth Deg 

  • Mae’r polisi hwn yn cwmpasu pob agwedd ar ein busnes gan gynnwys recriwtio, hyfforddiant, dyrchafiad, tâl a buddion, cwynion a disgyblaeth, diswyddo, colli swydd a gwyliau.   
  • Ni fyddwn ni’n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ymgeisydd, cyflogai, neu gleient ar sail: 
  • Oedran 
  • Anabledd 
  • Hil 
  • Cyfeiriadedd rhywiol 
  • Rhyw 
  • Crefydd neu gred 
  • Ailbennu rhywedd 
  • Priodas neu bartneriaeth sifil 
  • Beichiogrwydd a mamolaeth 
  • Menopos 

 

Recriwtio 

  • Bydd ein cyfleoedd gwaith yn agored i unrhyw ymgeisydd sy’n gallu cyflawni’r dyletswyddau gofynnol heb ragfarn. 
  • Bydd ein hagoriadau swyddi’n cael eu postio ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol (Twitter a LinkedIn) a gwefannau recriwtio os bydd angen ac yn hygyrch i bawb. 
  • Wrth asesu ymgeiswyr ar gyfer agoriadau swyddi, byddwn yn defnyddio proses ddogfenedig i sicrhau cysondeb. 

 

 

Lleoliadau Graddedigion a Gwaith 

  • Rydym yn eiriolwr o blaid lleoliadau graddedigion a gwaith i roi cyfle i bobl ifanc neu ddibrofiad gael profiad gwaith gwerthfawr.   
  • Bydd unrhyw leoliadau graddedigion neu waith a gynigiwn yn dilyn y canllawiau cydraddoldeb hyn. 

 

Amgylchedd Gwaith 

  • Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sydd: 
  • Yn gefnogol a pharchus gan roi cyfle cyfartal i bawb gymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir. 
  • Yn rhydd rhag aflonyddu a bwlio yn unol â’n polisi llesiant. 
  • Yn hyblyg yn unol â’n polisi gweithio ystwyth. 

 

Cyflogau 

  • Rydym wedi cofrestru gyda’r Living Wage Foundation ac yn cytuno i dalu’r cyflog byw i bob cyflogai.  
  • Credwn na ddylai fod unrhyw fwlch cyflog rhwng y rhywiau a byddwn yn talu pob cyflogai ar sail rôl y swydd a pherfformiad yn unig.