Cyfoeth Naturiol Cymru – Rheoli llifogydd ac argyfwng yr hinsawdd

Ymgysylltu â’r gymuned

Strategaeth cyfathrebu

Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau

Cymdeithasol a digidol

Dylunio graffeg a gwasanaethau creadigol

Rheoli digwyddiadau

Trosolwg 

Gan weithio fel rhan o dîm ymgynghori amlddisgyblaethol Arup, mae Grasshopper yn cynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghylch nifer o brosiectau rheoli llifogydd ledled Cymru.  Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â chymunedau ynghylch cynlluniau am gynigion i amddiffyn rhag llifogydd newydd, yn ogystal â chynlluniau i reoli llifogydd yn naturiol.

 

Beth wnaethom ni

Mae’r gwaith yn cynnwys darparu strategaeth gyfathrebu a negeseuon allweddol, sy’n gofyn am reoli naratifau heriol ynghylch y newid yn yr hinsawdd, rheoli traethlinau a pherygl llifogydd. 

Yn ogystal â darparu deunyddiau gwybodaeth ar gyfer y gymuned a chodi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu yn lleol, mae tîm Grasshopper yn gyfrifol am reoli gweithdai a digwyddiadau cymunedol yn ogystal â chefnogi gweithgarwch ymgysylltu â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid.

 

Canlyniad 

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar nifer o brosiectau sydd wedi cyrraedd gwahanol gamau o’r broses achosion busnes.