Mae ein cyfres canfyddiadau – Creu Sgyrsiau – yn dod ag arbenigwyr o’r diwydiant ynghyd i drafod y pynciau a’r tueddiadau diweddaraf mewn cyfathrebu. Boed yn Gysylltiadau Cyhoeddus a marchnata, materion cyhoeddus, ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid neu frandio a dylunio, ymunwch â #TeamGrasshopper yn ein digwyddiadau mewnol a chasglu canfyddiadau i’ch helpu i gyflwyno cyfathrebiadau mwy effeithiol.
Gwneud i bobl siarad. Dyna rydym yn ei wneud.
–
Digwyddiadau i ddod:
Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.
Mae digwyddiadau’r gorffennol yn cynnwys:
‘Diwrnod ym mywyd AS’ gyda Tom Giffard AS
Yn ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad cyntaf roedd Tom Giffard, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru. Cyflwynodd gipolwg unigryw ar sut mae ASau a’u timau’n paratoi ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog, sut y maen nhw’n llunio polisi, a’r rôl bwysig y mae pwyllgorau’r Senedd yn ei chwarae wrth lunio penderfyniadau.
‘Cwrdd â’r cyfryngau’ – gyda Rob Osborne, gohebydd cenedlaethol, ITV Cymru Wales
Ymunodd Rob Osborne, gohebydd cenedlaethol a chyflwynydd Sharp End ar ITV Cymru Wales, â ni ar gyfer ein hail ddigwyddiad. Yn newyddiadurwr ers dros ddegawd, mae wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Newyddiadurwr Cymreig y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Rhoddodd gipolwg prin i ni ar sut mae’n paratoi ar gyfer darllediadau, yr hyn y mae’n chwilio amdano mewn ‘stori dda’, a rhannu mewnwelediadau ar dirwedd ehangach y cyfryngau.
‘Gweithio gyda llywodraethau i gyflawni newidiadau polisi’ gyda Lee Waters AS
Ar gyfer ein trydydd digwyddiad yn y gyfres, ymunodd Lee Waters, AS Llafur Cymru dros Lanelli ers 2016 a chyn Gynghorydd Arbennig a newyddiadurwr â ni. Cynigiodd fewnwelediad gwerthfawr i sut mae llywodraethau yn datblygu polisïau a sut y gall sefydliadau a grwpiau gydweithio â nhw.
‘Llywio Blaenoriaethau’r Cyfryngau’ gyda Sion Barry, Golygydd BusinessLive
Bydd Sion Barry, golygydd hirsefydlog BusinessLive Cymru a’r Western Mail, yn rhannu ei wybodaeth arbenigol am yr hyn sy’n gyrru’r agenda newyddion a sut i gyflwyno i wefannau mawr fel
WalesOnline. Bydd y sesiwn hon yn cynnig cyngor amhrisiadwy ar sicrhau’r sylw gorau a deall yr hyn y mae golygyddion yn chwilio amdano mewn stori tudalen flaen.
‘Dosbarth meistr maniffesto: deall y ffordd orau o sicrhau bod eich gofynion polisi yn cael eu clywed’ gyda Paul Smith, cyn Bennaeth Staff yn y Senedd
Treuliodd Paul Smith chwe blynedd fel Pennaeth Staff yn y Senedd. Cyn hynny bu’n arwain cyfathrebiadau ar gyfer elusen genedlaethol ac mae wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr ymgyrchu yn ystod etholiadau San Steffan a’r Senedd. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cipolwg unigryw ar sut mae pleidiau gwleidyddol yn datblygu eu maniffestos etholiadol, pryd y byddant yn dechrau’r broses, a sut y gallwch sicrhau bod gofynion eich sefydliad yn cael eu clywed.