Trafnidaeth Cymru – Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy Eryri

Ymgysylltu â’r gymuned

Strategaeth cyfathrebu

Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau

Cymdeithasol a digidol

Dylunio graffeg a gwasanaethau creadigol

Rheoli digwyddiadau

Trosolwg

Penodwyd Grasshopper i gydweithio â Trafnidiaeth Cymru a Phartneriaeth Yr Wyddfa i ddatblygu strategaeth i ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned i lunio Adolygiad o Barcio a Thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen.  Dymunai’r partneriaid i gymunedau lleol helpu i gynllunio a chyflawni gwelliannau i lwybrau parcio, cludiant cyhoeddus, cerdded a beicio.

 

Beth wnaethom ni

Yng nghanol pandemig COVID â chyfyngiadau symud ar waith, fe wnaethom gyflwyno ymgyrch ddigidol hyper-leol, a gynhyrchwyd ar ffurf dogfennau cryno llawn gwybodaeth i esbonio’r prosiect a chyfres o weithdai rhithwir dwyieithog rhyngweithiol yn canolbwyntio ar y gymuned.

Yn olaf, fe wnaethom baratoi adroddiad ar yr ymgynghori yn crynhoi’r holl adborth gan y gymuned i helpu i lywio’r strategaeth yn y dyfodol.

 

Canlyniad

Perfformiodd yr ymgyrch yn well na’r ymgysylltu a ragwelwyd (o ran nifer yr ymatebion a chofrestriadau ar gyfer digwyddiadau), gan amlygu cyrhaeddiad ac ymgysylltu sylweddol yn y cymunedau lleol a dargedwyd.  Dangosodd yr adborth lefel gref o gefnogaeth i egwyddorion y strategaeth trafnidiaeth gynaliadwy, gan greu sylfaen gref i’r prosiect ddatblygu.