Pennant Walters – Fferm Wynt Mynydd Carn-y-Cefn

Ymgysylltu â’r gymuned

Ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid

Strategaeth cyfathrebu

Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau

Cymdeithasol a digidol

Dylunio graffeg a gwasanaethau creadigol

Rheoli digwyddiadau

Trosolwg

Mae Pennant Walters yn ceisio cael caniatâd cynllunio i adeiladu fferm wynt ym Mlaenau Gwent, o’r enw Mynydd Carn-y-Cefn.  Mae’r cynigion yn cynnwys wyth tyrbin gwynt â llafnau ag uchder o hyd at 180m, yn cynhyrchu hyd at 34 MW o drydan.  Mae’r prosiect yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol a bydd yn cael ei benderfynu gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a Gweinidogion Cymru.

 

Beth wnaethom ni

Mae Grasshopper wedi dylunio, rheoli a gweithredu rhaglen gyfathrebu ac ymgysylltu ddwyieithog sy’n cynnwys briffio cynrychiolwyr etholedig lleol, paratoi gwefan y prosiect, arddangosfeydd rhithwir a chyhoeddus, gweithdy ynghylch y budd i’r gymuned, hysbysebu ac ymgyrch gymdeithasol.

 

Canlyniad

Mae gweithgarwch ymgynghori yn parhau cyn cyflwyno cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ddiweddarach eleni.