Sero – Codi proffil busnes digidol sero net newydd
Ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid
Strategaeth cyfathrebu
Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau
Cymdeithasol a digidol
Trosolwg
Sefydlwyd Sero â’r bwriad o gynorthwyo cartrefi ledled y DU yn ystod eu taith i gyflawni carbon sero net.
Yn nodweddiadol, bydd pob cartref yn allyrru 4 tunnell fetrig o CO2 yn flynyddol, ac mae aelwydydd yn gyfrifol am hyd at 40% o allyriadau carbon y DU.
Mae Sero yn cyfuno arbenigedd ar adeiladu a digidol sydd heb ei ail yn y diwydiant i ddarparu atebion byw sy’n torri tir newydd, gan gynnwys Pasbort digidol Sero sy’n rhoi set glir o gamau i berchnogion eiddo a datblygwyr i gyflawni portffolio di-garbon ar gyfer cartrefi.
Beth wnaethom ni
Mae Grasshopper yn cydweithio â Sero ers 2019 i helpu i adeiladu ei broffil fel cwmni sy’n ysgogi’r diwydiant a busnes digidol newydd sy’n sbarduno arloesedd ym maes datgarboneiddio cartrefi.
Mae hyn wedi cynnwys cymorth ynghylch strategaethau, cysylltiadau â’r cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys digidol, cyfleoedd i siarad, cyflwyniadau gwobrau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwleidyddion.
Canlyniad
Yn fwyaf diweddar, mae Grasshopper wedi cydweithio â Sero i helpu i’w sefydlu fel arweinwyr y farchnad a chynorthwyo â’i rownd ariannu ddiweddaraf gan arwain at fuddsoddiad o £5.5m gan Legal & General a Hodge Bank.