Cyngor Castell-nedd Port Talbot – Annog y cyhoedd i adael y car gartref

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Strategaeth cyfathrebu

Cymdeithasol a digidol

Dylunio graffeg a gwasanaethau creadigol

Trosolwg 

Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dymuno gwella’i ddull o ymgysylltu â’r cyhoedd wrth ddatblygu a hyrwyddo llwybrau teithio llesol ledled y rhanbarth. 

Mae teithio llesol – cerdded a reidio beic – yn elfen allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru i greu Cymru iachach a chysylltu ein cymunedau.

 

Beth wnaethom ni

Datblygodd Grasshopper strategaeth, gan gynnwys mapio rhanddeiliaid, negeseuon allweddol ac adnoddau ymgyrchu, i greu ymdeimlad o fomentwm yn arwain at gyhoeddi’r llwybrau teithio llesol newydd. 

Fel rhan o’r briff, fe wnaethom ddatblygu brand teithio llesol penodol Castell-nedd Port Talbot, templedi ar gyfer deunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd a dylunio tudalen we newydd ynghylch teithio llesol.

 

Canlyniad

Bydd y wefan a’r deunyddiau newydd yn fyw yn fuan felly gwyliwch amdanynt!