Cynhadledd Plaid Cymru 2026: Troi Uchelgais yn Weithredu dros Gymru

Rhoddodd cynhadledd Plaid Cymru ym mis Hydref yn Llandudno ddigon o bethau i’w hystyried am ddyfodol Cymru, gyda thwf economaidd, gweithredu ar yr hinsawdd a grymuso cymunedau yn uchel ar yr agenda.

I Reolwr Gyfarwyddwr Grasshopper Communications, Clare Jones, roedd yn benwythnos prysur o drafodaethau polisi, ailgysylltu â chleientiaid a chydweithwyr, ac ystyried beth allai uchelgeisiau’r llywodraeth eu golygu i gymunedau ledled Cymru.

Thema a gododd dro ar ôl tro drwy gydol y gynhadledd oedd pwysigrwydd sicrhau bod buddsoddiad a thwf economaidd yn darparu manteision lleol pendant. Amlinellodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth gynlluniau i hybu economi Cymru, gan gynnwys trethi busnes is, Asiantaeth Datblygu newydd, ac uchelgeisiau i haneru bwlch cynhyrchiant Cymru gyda gweddill y DU o fewn deng mlynedd. Gan adeiladu ar hyn, cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet Adam Price ‘Sbardun’, rhaglen newydd a fydd yn cefnogi 20 o fusnesau Cymru i ddechrau tyfu, gwella cynhyrchiant a chreu swyddi.

Ochr yn ochr ag uchelgeisiau i dyfu busnesau Cymru, roedd pwyslais cryf ar sicrhau bod gan gymunedau fwy o ddylanwad dros eu dyfodol economaidd. Adlewyrchwyd hyn mewn cynigion i gryfhau perchnogaeth gymunedol, gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy a chynllun hawl-i-brynu cymunedol arfaethedig.

Roedd ynni adnewyddadwy yn ffocws penodol yn sgyrsiau Clare gyda RenewableUK Cymru, gan archwilio sut y gall Cymru wneud y mwyaf o fuddsoddiad wrth sicrhau bod pobl leol yn gweld y manteision drwy swyddi, cadwyni cyflenwi cryfach a chyllid cymunedol. Enghraifft wych yw Fferm Wynt Clocaenog, lle mae cyllid cymunedol wedi helpu i ddiogelu tafarn a siop pentref ger Rhuthun, gan ddangos sut y gall ynni adnewyddadwy gefnogi bywyd cymunedol pob dydd.

Roedd cydnabyddiaeth hefyd nad yw cymunedau lleol bob amser yn deall manteision buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn dda. Canfu ymchwil RenewableUK Cymru nad oedd gan 76% o’r ymatebwyr fawr ddim dealltwriaeth o gynlluniau budd cymunedol, neu ddim dealltwriaeth o gwbl, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu clir ac ymgysylltu ystyrlon wrth feithrin ymddiriedaeth a dangos effaith gadarnhaol prosiectau ynni adnewyddadwy.

Cafodd y pwyslais hwn ar fuddion lleol ei adleisio gan y Gweinidog Cabinet Siân Gwenllian, a bwysleisiodd pwysigrwydd awdurdodau lleol yn llunio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau. Roedd ei chyhoeddiadau’n cynnwys adolygiad o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a chynlluniau ar gyfer polisi datblygu cynaliadwy ar gyfer canolfannau data, gan sicrhau bod buddsoddiad yn y dyfodol o fudd i gymunedau a gweithluoedd Cymru.

Roedd addysg a sgiliau hefyd yn rhan o sgyrsiau Clare gyda ColegauCymru, yn enwedig sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn well, gan greu llwybrau i ddatblygu sgiliau a chyflogaeth ystyrlon.

Ochr yn ochr â’r trafodaethau hyn, atgyfnerthodd y gynhadledd frys gweithredu ar yr hinsawdd, gydag ymrwymiadau ynghylch gwydnwch hinsawdd, adfer natur a chyflawni sero net erbyn 2040.

I Grasshopper, roedd y prif gasgliad yn glir: dim ond rhan o’r darlun yw polisïau a buddsoddiad uchelgeisiol. Boed yn ynni adnewyddadwy, datblygu economaidd neu gyfleoedd i bobl ifanc, mae ymgysylltu ystyrlon, cydweithio, a chyfathrebu clir yn hanfodol i sicrhau bod cymunedau’n deall, yn dylanwadu, ac yn elwa o newid.

Ac wrth gwrs, ni fyddai unrhyw gynhadledd yn Llandudno yn gyflawn heb weld geifr Pen y Gogarth a gwneud ffrindiau gyda gwylanod!