Mae Grasshopper Communications wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ein cleientiaid a’r cyhoedd. Mae gennym weithdrefnau ar waith yn seiliedig ar y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data Cyffredinol (GDPR) (UE) 2016/679 ac rydym yn cydymffurfio â phob agwedd ar fframwaith deddfwriaethol diogelu data’r DU. Mae Grasshopper wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a’n rhif cofrestru yw ZA345016.
Mae ein polisi preifatrwydd wedi’i bostio ar ein gwefan www.grasshopper-comms.co.uk. Os hoffech ddysgu rhagor am ein polisïau diogelu data a phreifatrwydd, cysylltwch â ni ar (t) 02921 675483 neu (e) [email protected].
Nid ydym yn prosesu unrhyw “ddata sensitif”, a bydd y rhan fwyaf o’r data a broseswn eisoes yn gyhoeddus.
Rydym yn defnyddio System Rheoli Cynnwys sy’n cydymffurfio â GDPR i storio a rheoli’r holl ddata rhanddeiliaid a gesglir yn ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.tractivity.co.uk/.
Bydd Grasshopper Communications yn casglu ac yn prosesu data at y dibenion canlynol:
Ymgysylltu â’r Gymuned a Rhanddeiliaid
Fel rhan o’n hymgyrchoedd/ymgysylltu â’r gymuned byddwn yn defnyddio cronfeydd data cyfeiriadau (cyfeiriadau yn unig) i hysbysu trigolion a busnesau lleol am brosiectau datblygu ac adfywio arfaethedig. Byddwn yn prosesu’r data hwn yn seiliedig ar Ofynion Cyfreithiol. Gofynnir am yr ymgynghoriad hwn gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2016 a Deddf Tai a Chynllunio 2016 (Lloegr).
Yn rhan o’n hymgysylltu/ymgyrchoedd cymunedol yn ystod ymgynghoriad statudol ac anstatudol ar gyfer prosiectau datblygu ac adfywio, byddwn yn casglu data (sefydliadau, cyfeiriadau, e-byst, rhifau ffôn a manylion cyswllt) i greu cronfeydd data rhanddeiliaid o unigolion, busnesau lleol, grwpiau cymunedol, swyddogion etholedig a swyddogion llywodraeth leol sy’n debygol o fod â diddordeb yn y prosiectau neu y byddent yn debygol o effeithio arnynt. Byddwn ni’n casglu’r data hyn o wybodaeth yn y parth cyhoeddus a chwiliadau rhyngrwyd. Byddwn ni’n prosesu’r data hyn ar sail Buddiannau Cyfreithlon.
- Byddwn ni’n defnyddio’r data hyn dim ond at ddiben hysbysu trigolion lleol a rhanddeiliaid o gynigion datblygu, ymgynghoriadau sydd ar ddod a diweddariadau prosiect.
- Byddwn ni’n rhannu’r data hyn â’n cleientiaid yn unig ac ag unrhyw drydydd parti y mae eu hangen at ddibenion cyflawni gofynion postio.
- Yn rhan o’n gweithdrefnau caffael, byddwn ni’n sicrhau bod unrhyw drydydd parti a ddefnyddir ar gyfer cyflawni gofynion postio hefyd yn cydymffurfio â GDPR.
- Mae gennych yr hawl i’n hysbysu os hoffech gael eich tynnu oddi ar unrhyw bostiadau yn y dyfodol a pheidio â derbyn unrhyw ddiweddariadau pellach ar y datblygiadau arfaethedig.
- Byddwn ni’n cadw’r data hyn dim ond i ddangos ein bod wedi bodloni gofynion statudol ar gyfer ymgynghori a byddwn ni’n cael gwared ar y data hyn flwyddyn ar ôl i ni ddod i gysylltiad â’r prosiect.
Arolygon Rhanddeiliaid a Chymunedau
Yn rhan o’n rhaglen ymgysylltu â’r gymuned, efallai y byddwn ni’n defnyddio arolygon i gasglu adborth ar gyfer ein cleientiaid. Bydd yr arolygon hyn yn wirfoddol a gallant fod yn ddienw os dymunir. Byddwn ni’n prosesu’r data hyn yn seiliedig ar Fuddiant Dilys.
- Caiff adroddiadau ymgynghori eu darparu i’n cleientiaid a byddant yn cynnwys crynodebau wedi’u golygu o’r ymatebion hyn i’r arolwg, ni fydd unrhyw ddynodwyr personol wedi eu cynnwys.
- Caiff adroddiadau ymgynghori eu cyflwyno yn rhan o’r cais cynllunio ar gyfer y prosiect arfaethedig a byddant ar gael i’r cyhoedd.
- Byddwn ni’n manylu ar ddechrau pob arolwg sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio yn rhan o’r broses ymgynghori.
Marchnata Grasshopper
O bryd i’w gilydd bydd Grasshopper Communications yn anfon diweddariadau, gwahoddiadau i ddigwyddiadau neu gylchlythyrau trwy’r e-bost at y rhai sydd wedi gwneud cais i fod ar ein rhestr bostio.
- Yn rhan o’n paratoadau ar gyfer cydymffurfio â GDPR, rydym wedi cysylltu â’r rhai ar ein cronfa ddata gyfredol ac wedi cadw’r data dim ond ar gyfer y rhai sydd wedi optio i mewn i dderbyn gwybodaeth gennym.
- Byddwn ni’n darparu dolen ddad-danysgrifio ar bob cylchlythyr i roi ffordd hawdd i chi ein hysbysu nad ydych am dderbyn unrhyw wybodaeth bellach.
- Mae gennych yr hawl i ofyn i’ch manylion cyswllt gael eu dileu o’n cronfa ddata a byddwn ni’n dileu’ch gwybodaeth ar unwaith.
Gwybodaeth Cyflogeion a Recriwtio
Bydd Grasshopper Communications yn prosesu data cyflogeion yn seiliedig ar Ofyniad Cyfreithiol a Chydsyniad
- Bydd Grasshopper Communications yn cadw’r holl gofnodion cyfrifyddu am chwe blynedd ar ôl y cyfnod cyfrifyddu y maent yn ymwneud ag ef gan mai dyma ofyniad CThEF ar gyfer TAW a threth gorfforaeth.
- Byddwn ni’n cadw data personol am ein cyflogeion yn gyfrinachol a byddwn ni ond yn rhannu data â sefydliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith (megis CThEF) neu gyda’ch caniatâd chi (megis darparwyr pensiwn neu drydydd partïon y mae’n ofynnol iddynt brosesu’r gyflogres).
- Cedwir cofnodion cyflogeion oddi ar y safle yn swyddfa ein cyfrifydd a dim ond y cyfrifydd a’r Cyfarwyddwyr fydd yn cael mynediad iddynt.
- Cedwir yr holl gofnodion personél am dair blynedd ar ôl i gyflogai adael ein cyflogaeth yn unol â gofynion TWE.
- Os ydych wedi cyflwyno’ch CV i’w ystyried ar gyfer rôl gyda Grasshopper ac nad ydych wedi bod yn llwyddiannus, dim ond am dri mis y byddwn ni’n cadw’r data hyn felly mae croeso i chi ailymgeisio am unrhyw agoriadau yn y dyfodol.
Ein Diogelwch a’ch Data
- Cefnogir ein system gyfrifiadurol gan Orbits IT ac mae disgrifiad o’n systemau TG ar gael ar gais.
- Mae pob gliniadur a ddefnyddiwn wedi’i ddiogelu gan gyfrinair.
- Bydd unrhyw waith papur cyfrinachol neu waith papur sy’n cynnwys data personol yn cael ei rwygo cyn ei waredu.
- Rhoddir gwybod am unrhyw reolau diogelwch a dorrir yn unol â pholisi Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) mewn modd amserol.
- Mae gan Grasshopper Communications Ltd Dystysgrif Gofrestru gyda’r ICO, cyfeirnod ZA345016.
Defnyddio Cwcis
Caiff ein gwefan ei chynnal gan Squarespace ac mae eu polisi cwcis i’w weld yma:
https://www.squarespace.com/cookie-policy/
Adolygu’r Polisi
- Mae Grasshopper Communications yn ymrwymo i adolygu’r polisi hwn o leiaf unwaith y flwyddyn.
- Mae Grasshopper Communications yn ymrwymo i adolygu’r polisi hwn unrhyw bryd y bydd newid yn y ffordd rydyn ni’n gwneud busnes neu newid yn y gyfraith.
Eich Hawliau
Mae gennych chi nifer o hawliau o dan y rheoliadau GDPR newydd y gellir eu deall yn well trwy ddarllen canllawiau’r ICO yma:
- Mae gennych chi’r hawl i gywiro neu ddiweddaru’ch gwybodaeth bersonol a brosesir gan Grasshopper Communications.
- Mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni’ch hysbysu pa ddata sydd gennym amdanoch.
- Mae gennych chi’r hawl i dynnu’n ôl eich caniatâd i ni ddefnyddio’ch data (pan fo’n berthnasol).
- Mae gennych chi’r hawl i gyflwyno cwyn i’r ICO os ydych yn teimlo nad yw eich data wedi’u rheoli’n dda.