Ni yw

Grasshopper

 

Yr hyn a wnawn…

Rydym yn creu ymgyrchoedd sy’n newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, parhaol.Rydym yn helpu i lunio sgyrsiau am y byd o’n cwmpas, boed yn gartrefi newydd, ynni adnewyddadwy, rheoli llifogydd neu dechnolegau carbon isel.

Rydym yn darparu cyfathrebiadau gydag effaith. Rydym yn symleiddio syniadau cymhleth fel eu bod yn gwneud synnwyr.

O ddatblygu strategaeth gyfathrebu i gael mwy o bobl i adael eu ceir gartref, neu ymgysylltu â phrosiect creu lleoedd sy’n ysbrydoli cymunedau i ailddyfeisio’r mannau o’u cwmpas.

Gall cyfathrebu gwych chwalu rhwystrau a helpu i newid y byd. Dyna lle y down ni i mewn.

Mae gennym brofiad mewn:

Creu Lleoedd:

gweithio'n agos gyda chymunedau lleol i greu lleoedd gwell

Adeiladu tai:

darparu cartrefi newydd a chymunedau cynaliadwy

Tai cymdeithasol:

creu negeseuon ac ymgyrchoedd sy'n atseinio

Sero net:

helpu llunio'r agenda sero net a datgarboneiddio

Ynni:

ysgogi'r newid i ynni adnewyddadwy

Seilwaith:

darparu seilwaith sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Trafnidiaeth:

cefnogi dewisiadau teithio cynaliadwy

Amgylchedd:

cyfathrebu effeithiau'r argyfwng hinsawdd

Ein gwasanaethau

Rydym yn creu ymgyrchoedd sy’n newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, parhaol. Gall cyfathrebu gwych chwalu rhwystrau a helpu i newid y byd. Dyna lle y down ni i mewn

Ymrwymiad

Gwleidyddol a

Rhanddeiliaid

 

Mae ymgysylltu â gwleidyddion, rhanddeiliaid a dylanwadwyr yn allweddol i sicrhau bod eich neges yn cael ei chlywed ac yn cael effaith ym mhopeth o ymgynghori cynllunio i strategaeth gyfathrebu. Mae hefyd yn un o’r elfennau pwysicaf ar gyfer cyflawni prosiectau seilwaith mawr yn llwyddiannus.

P’un ai eich nod yw ymgysylltu llywodraethol â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn San Steffan neu’r Senedd, neu â rhanddeiliaid dylanwadol eraill, gallwn eich cefnogi. Gallwn eich helpu i gynllunio a chyflawni rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid, helpu i deilwra eich negeseuon, a drafftio papurau briffio sy’n cyrraedd y nod.

Ein nod yw eich helpu i ddeall y dirwedd a’r polisi gwleidyddol, a’ch arwain yn llwyddiannus drwyddi.

Ymgysylltu

Cymunedol

 

Mae pob barn yn cyfrif. Nid ydym yn siarad â chymunedau yn unig, rydym yn eu cynnwys. Nid ydym yn trosglwyddo gwybodaeth yn unig, rydym yn sicrhau gwerth. Mae pobl wrth galon yr hyn a wnawn, a’n rôl ni yw sicrhau eu bod yn deall beth sy’n digwydd yn lleol a rhoi’r cyfle iddynt ymgysylltu a chydweithio ar brosiectau. Mae gennym brofiad helaeth o ymgysylltu â chymunedau lleol.

Rydym yn deall beth sy’n gweithio a sut i gyfathrebu ynghylch materion cymhleth, heriol neu ddadleuol. Gall hyn gynnwys creu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, hwyluso gweithdai ac ymgysylltu â’r cyfryngau. Nid ydym yn ofni cael y sgyrsiau heriol hynny, ac mae gennym brofiad o ddeall a dod ag amrywiaeth o safbwyntiau ynghyd. Credwn fod ymgysylltu cymunedol da yn fwy nag ymarfer ‘ticio blychau’.

Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd

 

Rydym yn gyrru cysylltiadau cyhoeddus rhagweithiol ac effeithiol ac ymgyrchoedd sy’n atseinio gyda’r bobl gywir. Rydym yn arbenigwyr mewn creu cynnwys, rheoli enw da, cysylltiadau cyfryngau a strategaeth cyfryngau cymdeithasol.

O ymgysylltu â grwpiau ffocws preswylwyr i greu negeseuon i gefnogi’r agendâu cynaliadwyedd a sero net, i ddyfeisio ymgyrchoedd ymwybyddiaeth i hyrwyddo rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus newydd, mae ein cyfathrebiadau yn newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, hirhoedlog.

Gwasanaethau Creadigol

 

Rydym yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynnwys cymhellol – gan gynhyrchu cysyniadau, ymgyrchoedd ac asedau gweledol sy’n targedu’ch cynulleidfaoedd, yn goresgyn heriau dylunio ac yn dod â’ch negeseuon yn fyw.

Rydym yn cynnig creu brandiau, dylunio gwefannau, asedau cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a deunyddiau ymgynghori.

Pobl rydym yn falch o

weithio â hwy