Polisi Caethwasiaeth Fodern

Mae Grasshopper Communications Ltd yn gwmni cyfathrebu arbenigol sy’n darparu cymorth strategol i sefydliadau sy’n gweithredu yn y sectorau adfywio, cynllunio, eiddo a seilwaith. Mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at gaethwasiaeth fodern. 

 

Diffiniad o Gaethwasiaeth Fodern 

Ystyriwn fod caethwasiaeth fodern yn cynnwys masnachu mewn pobl; gwaith gorfodol, trwy fygythiad meddyliol neu gorfforol; bod yn eiddo i gyflogwr neu gael eich rheoli gan gyflogwr drwy gamdriniaeth feddyliol neu gorfforol neu fygythiad o gamdriniaeth; cael eich dad-ddyneiddio, eich drin yn nwydd neu gael eich prynu neu’ch gwerthu yn eiddo a chael eich cyfyngu’n gorfforol neu gael eich cyfyngu o ran rhyddid symud. 

 

Ein Hymrwymiad 

Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu arferion cyflogaeth da wrth ddarparu ein gwasanaethau a’r rhai hynny yn ein cadwyni cyflenwi a darparu gwell cyfleoedd cyflogaeth a chefnogi datblygiad gyrfa hirdymor ar gyfer ein staff. Rydym yn cefnogi dileu arferion cyflogaeth annheg a chaethwasiaeth fodern ar draws cadwyni cyflenwi yng Nghymru. 

Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldebau mewn perthynas â mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern o dan ddarpariaethau Adran 54(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Byddwn yn: 

  • Sicrhau na cheir unrhyw lafur trwy lafur plant, caethwasiaeth na masnachu mewn pobl. 
  • Cynnal adolygiad parhaus o’n harferion mewnol mewn perthynas â’n gweithlu ac, yn ogystal, ein cadwyni cyflenwi. 
  • Peidio â gweithio ag unrhyw sefydliad arall yn y Deyrnas Unedig neu dramor, sy’n cefnogi neu y canfyddir ei fod yn ymwneud â chaethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfod neu orfodol. 
  • Cynnal prosesau diwydrwydd dyladwy gan sicrhau nad yw caethwasiaeth a/neu fasnachu mewn pobl yn digwydd yn ein busnes. 
  • Cynnal adolygiad o bolisïau ein cyflenwyr mewn perthynas â chaethwasiaeth a masnachu mewn pobl. 
  • Terfynu ein contract cyflenwr os bydd, neu os amheuir bod, y cyflenwr yn ymwneud â chaethwasiaeth fodern. 
  • Cynnal adolygiad blynyddol i nodi ac asesu risgiau posibl caethwasiaeth a masnachu mewn pobl yn ein cadwyni cyflenwi a chymryd camau os canfyddir risg. 
  • Hyfforddi ein staff ar gaethwasiaeth fodern.