Cael pobl i siarad yw’r hyn a wnawn

 

Efallai ein bod ni’n fach, ond rydym yn glir ynghylch ein rôl – i ymgysylltu’n â chymunedau yn well a deall eu safbwyntiau. Oherwydd mae pobl yn haeddu gwybod, deall ac ymgysylltu â’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.

Ein diwylliant

Rydym yn hoffi meddwl bod ein diwylliant ychydig yn wahanol i’r rhan fwyaf o leoedd. Rydym wedi’n huno gan nod cyffredin – cael pobl i siarad a datgloi gwerth cymdeithasol. Sy’n gwneud dod i’r gwaith yn ystyrlon, yn ysbrydoledig ac yn hwyl.

Rydym yn gwerthfawrogi pobl dros broses, yn darparu cyd-destun nid rheolaeth. Rydym yn gofalu am ein tîm – o gael cronfa les i gefnogi gweithwyr sy’n rhoi cynnig ar hobi newydd, cynnig diwrnodau gwirfoddoli a chefnogi gweithio hyblyg.

Rydym yn gwybod mai ein gwahaniaethau yw’r pethau sy’n ein gwneud yn arbennig, a dyna pam rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i fod yn griw cynhwysol ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn annog gwahanol syniadau a safbwyntiau, felly mae ein tîm yn rhan bwysig o’n helpu i greu diwylliant sy’n cynrychioli pob un ohonom.

Rydym yn gwrando, yn cyfathrebu, yn canmol ein gilydd ac yn gwthio ein gilydd i fentro allan o’n parthau cysur. Pan fyddwn yn wynebu heriau, rydym yn eu hwynebu gyda’n gilydd.

Helpu pobl a’r blaned

 

Prif nod Grasshopper yw gwerth cymdeithasol – gan ddod â gwahaniaeth cadarnhaol i’r mannau lle’r ydym yn gweithio ac yn byw. I ni, mae golyga hynny gymryd cyfrifoldeb am ein heffaith ar yr amgylchedd a chreu cymunedau sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cymuned

Rydym wedi bod ar flaen y gad o ran ymgysylltu â’r gymuned ers ein sefydlu yn 2015. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu gwerth ychwanegol i’r cymunedau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Rydym yn noddi Merched y Fenni dan 14 oed, un o’n clybiau pêl-droed lleol. Rydym hefyd yn rhoi rhoddion elusennol rheolaidd, ac mae llawer o aelodau ein tîm yn wirfoddolwyr.

Cynaladwyedd

Newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf a wynebwn, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn chwarae ein rhan ac yn helpu’r hwb ymlaen at sero net. Rydym yn aelod o Cynnal Cymru ac wedi ymuno ag Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru. Rydym yn annog ein tîm i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a theithio llesol – beicio neu gerdded. Rydym ond yn defnyddio gwasanaethau sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ac yn gweithio gyda chyflenwyr lleol.

Llesiant

Rydym yn helpu’r tîm i weithio’n hyblyg i reoli eu cydbwysedd bywyd a gwaith, ac yn darparu cronfa llesiant i flaenoriaethu amser ‘chi’. Rydym yn rhoi dau ddiwrnod cyflogedig i aelodau tîm ar gyfer gwaith gwirfoddol.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb

Cefnogwn y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, ar ein platfformau ar-lein ac yn ystod ein gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys ymgynhori ar gynllunio ac ymgysylltu llywodraethol. Rydym yn eiriolwr ar gyfer lleoliadau gwaith a graddedigion i roi cyfle i bobl ifanc neu ddibrofiad gael profiad gwaith gwerthfawr. Rydym yn gyflogwr Living Wage Foundation.

 

Wrth gwrs, mae bob amser mwy y gallem ei wneud… Nid yw’r ffaith ein bod yn fach yn golygu ein bod yn meddwl yn fach!