Polisi Amgylcheddol
Asiantaeth gyfathrebu yw Grasshopper sydd ag awch creadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau. Ein nod yw sicrhau newidiadau cadarnhaol yn y byd o’n cwmpas. Rydym yn helpu sefydliadau i gysylltu â phobl ac i bartneru â’u cymunedau i drawsffurfio lle maent yn gweithio ac yn byw. Ein nod yw gweithio gyda chymunedau i gyflwyno prosiectau gwell a gwerth cymdeithasol parhaol.
Rydym yn helpu i lunio sgyrsiau am y byd o’n cwmpas. Boed yn gartrefi newydd, ynni adnewyddadwy, rheoli llifogydd neu dechnolegau carbon isel.
Rydym yn arbenigo mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned, materion corfforaethol ac ymchwil a chanfyddiadau ar gyfer y sectorau ynni adnewyddadwy, llunio mannau cyhoeddus, yr amgylchedd a thrafnidiaeth ac iechyd. Rydym yn cyflogi 20 o aelodau tîm ar draws ein dwy swyddfa yng Nghaerdydd a Crawley.
Mae Grasshopper wedi ymrwymo i weithredu ein busnes o ddydd i ddydd ag ymwybyddiaeth o’n heffaith bosibl ar yr amgylchedd. Yn ymgynghoriaeth mewn swyddfa nid ydym yn gweithio ag unrhyw ddeunyddiau peryglus; rydym yn effeithio ar ein hamgylchedd trwy deithio a’r defnydd o nwyddau traul ac ynni.
Mae Grasshopper wedi ymrwymo i adolygu ein gweithrediadau busnes yn rheolaidd er mwyn gwella ein harferion gwaith yn barhaus, lleihau ein heffaith amgylcheddol ac atal llygredd.
Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffeithiau amgylcheddol ac yn gweithio tuag at nodau datblygu cynaliadwy. Mae’r tîm cyfan wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n gysylltiedig â’n gweithgareddau drwy’r canlynol:
Teithio
- Rydym yn hyrwyddo diwylliant gwaith o weithio ystwyth gan gynnwys gweithio o gartref i leihau teithio diangen.
- Rydym yn hyrwyddo gweithio oriau hyblyg er mwyn lleihau teithio pan fo’n ymarferol yn ystod amseroedd teithio brig pan allai traffig achosi amser teithio, defnydd o danwydd ac allyriadau ychwanegol.
- Rydym yn blaenoriaethu’r defnydd o gludiant cyhoeddus a theithio llesol (bws, trên, beicio neu gerdded) pan fo’n ymarferol.
- Pan nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn bosibl, rydym yn annog cynllunio llwybrau cyn teithiau hir er mwyn lleihau allyriadau CO2.
- Rydym yn annog rhannu ceir ar gyfer teithiau busnes, pan fo modd.
- Rydym yn lleihau teithio trwy drefnu cyfarfodydd busnes ar-lein neu mewn lleoliadau lle mae’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr wedi’u lleoli.
- Rydym yn dod o hyd i gyflenwyr lleol ac yn sicrhau bod danfoniadau’n cael eu lleihau, pan fo modd.
- Rydym yn monitro ein teithiau busnes i helpu i leihau ein hôl troed carbon.
Rheoli Gwastraff
- Rydym wedi ymrwymo i ailgylchu papur, cardbord, tuniau, gwydr a phlastig a ddefnyddir yn ystod gweithrediadau busnes.
- Rydym yn ymrwymo i leihau argraffu diangen drwy:
- Ddefnyddio monitorau mawr i sicrhau bod cyflogeion yn gallu gweld dogfennau’n glir heb fod angen argraffu.
- Cyfathrebu’n electronig pan fo modd.
- Atodi dogfennau yn electronig a defnyddio ffeiliau cyfrifiadurol a rennir.
- Asesu’n ofalus faint o ddeunyddiau ymgynghori printiedig sydd eu hangen i osgoi argraffu gormodol.
- Wrth argraffu rydym yn defnyddio gosodiadau sy’n defnyddio’r swm lleiaf o bapur gan gynnwys argraffu ar ddwy ochr y papur a chyfuno tudalennau pan fo’n ymarferol.
- Archifo gwybodaeth a chyfathrebiadau prosiect yn electronig.
- Rydym yn adolygu ein cyflenwadau swyddfa yn rheolaidd i brynu ac i ddefnyddio deunyddiau effaith isel.
Rheoli ynni
- Rydym yn nodi offer ynni effeithlon wrth brynu offer swyddfa electronig newydd a byddwn yn disodli hen fylbiau golau gyda goleuadau LED pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes.
- Rydym yn sicrhau bod yr holl oleuadau wedi’u diffodd pan fo angen ac ar ddiwedd y diwrnod gwaith.
- Rydym yn diffodd offer swyddfa electronig pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
- Rydym yn monitro ein defnydd o ynni i helpu i leihau ein hôl troed carbon.
Caffael
- Rydym yn cefnogi busnesau a chyflenwyr lleol i helpu i gefnogi’r economi leol.
- Rydym yn adolygu ein cyflenwadau swyddfa a’r offer sydd eu hangen ar gyfer ein gwaith yn rheolaidd i brynu ac i ddefnyddio deunyddiau effaith isel.
- Rydym yn adolygu polisïau amgylcheddol ein holl gyflenwyr.
Ymrwymiadau’r cwmni
- Rydym yn sicrhau bod pob cyflogai a chleient yn deall pwysigrwydd arfer amgylcheddol da. Caiff hyn ei gyfleu yn ystod ein proses gynefino ar gyfer pob aelod newydd o’r tîm a thrwy ddiweddariadau mewnol pan fo angen.
- Rydym wedi ymrwymo i gynnal gwerthoedd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
- Rydym yn aelod o Cynnal Cymru ac wedi ymuno ag Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru.
- Rydym yn gweithio i fodloni gofynion Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd.