Dywedwch shwmae wrth… Ethan Carmichael
Pam yr oeddet ti eisiau ymuno gyda’r tîm?
Yr oedd y prosiectau creu lleoedd ac ynni adnewyddadwy wedi gwneud i Grasshopper sefyll mas yn fawr imi. Rwyf eisoes wedi eisiau gweithio gyda phobl sydd yn dymuno gofalu am gymunedau a darparu datblygiad cyfrifol cymaint â fi.
Gwnaeth ymrwymiad y tîm i’r iaith Gymraeg fy nhynnu i Grasshopper, hefyd. Mae’r iaith Gymraeg yn agos iawn at fy nghalon, yn enwedig ers dychwelyd i Gymru ar ôl y brifysgol!
Beth sydd wedi dy synnu’r fwyaf ers dechrau?
Amrywiaeth y rôl! Un munud rwy’n archwilio rhanddeiliaid am gleientiaid, a’r munud arall rwy’n teithio i ddigwyddiad allanol i godi ymwybyddiaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy. Nid yw’r un diwrnod yn debyg, sydd yn gyffrous iawn.
Disgrifia dy rôl mewn tri gair.
Cyflym, amrywiol a chydweithredol.
Beth yw un peth yr wyt yn ysu i ddysgu neu ddechrau?
Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu gwell ddealltwriaeth o ran sut y mae’r Senedd yn gweithredu trwy ein monitro gwleidyddol – o wrando ar Gyfarfodydd Llawn i gadw lan gyda’r diweddariadau diweddaraf yng ngwleidyddiaeth a pholisi Cymru.
A’r peth pwysicaf… beth yw dy hoff le i fynd am ginio?
Crumbs! Y bwyd llysieuol gorau yng Nghaerdydd, heb amheuaeth. Wedyn, af i Farchnad Caerdydd am bicen ar y maen am bwdin – y gorau yng Nghymru!