Cymraeg + COVID = ?
Datblygiadau positif
Priodas sydyn oedd hi efallai rhwng y pandemig a thechnoleg o bell, ond cafodd effaith bositif iawn ar oedolion sy’n ddysgwyr. Mae adran Cymraeg i Oedolion Coleg Gwent yn dweud bod ‘symud i ddysgu ar-lein wedi cynyddu niferoedd dysgwyr gan 25% ar ein cyrsiau wythnosol a bron 75% ar ein cyrsiau atodol fel y Sadyrnau Siarad a’r cyrsiau penwythnos’.
Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg ar Duolingo – cododd nifer y dysgwyr Cymraeg newydd sy’n defnyddio’r ap gan 44% yn 2020, sy’n ei gwneud yr iaith sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Yn wir, yn y cyfnod 3 mis ers Hydref 2020, roedd ffigurau Duolingo am y Gymraeg 100,000 yn uwch ac erbyn hyn mae’r ap wedi alinio cynnwys cyrsiau â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Bydd ffigurau cenedlaethol ar gael pan fydd y flwyddyn academaidd yma drosodd ond roedd ffigurau 2019-2020 i fyny 32% ar y flwyddyn flaenorol yn barod er bod y rhan fwyaf ohoni hi cyn y pandemig. Ar sail y tueddiadau hyn, mae’n deg disgwyl codiad arall yn y ffigurau cenedlaethol ar gyfer 2020-21. O safbwynt dysgu anffurfiol, mae Coleg Gwent yn adrodd y ffigurau uchaf erioed am ei glybiau sgwrsio a chlybiau llyfrau er nad oes cynifer ohonyn nhw’n digwydd ar-lein. Mae mynychu sesiynau o gysur eich cartref eich hun heb orfod teithio yn golygu bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan.
Mae dysgu wedi dod yn fwy hygyrch. Bydd darpariaeth rithiol yn elfen allweddol yn y dyfodol wrth i gyfuniad o ddysgu’n bersonol ac ar-lein ddod yn norm mwy effeithiol, mae pobl yn ei ffafrio. Fel hwylusydd clwb sgwrsio wythnosol* rwy’n gallu tystio i gyfleustra sesiynau rhithwir, er y byddai’n eithaf braf gadael y tŷ am cappuccino a thafell o deisen foron bob hyn a hyn. Felly, diolch byth am y sector addysg oedolion, priodas fantais a fu’n llwyddiannus.
Mewn newyddion positif eraill roedd codiad o 182% yn nifer cyfartalog gwylwyr rhaglenni plant S4C ers dechrau’r cyfnod clo ac ymatebodd RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) i ddymuniadau rhieni drwy sefydlu gwefan newydd, Welsh4Parents.cymru, i gasglu adnoddau ynghyd mewn un man canolog i helpu a chefnogi dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref.
Datblygiadau negyddol
I’r rhan anodd: effaith Covid19 ar addysg Cyfrwng Cymraeg ac ar y Gymraeg yn y gymuned.
Gan ysgrifennu o safbwynt breintiol siaradwr rhugl a oedd yn gallu cynnal yr iaith gartref trwy gydol y ddau gyfnod clo, rwy’n gweld pa mor anodd mae’n rhaid ei bod hi i blant o deuluoedd di-Gymraeg yn ystod y pandemig. Ar ein teithiau cerdded dyddiol y cyfnod hwnnw, byddwn i’n dod ar draws rhieni yn gwneud eu gorau glas i gefnogi addysg Cyfrwng Cymraeg eu plant ar yr un pryd ag ymdopi â’u gyrfaoedd eu hun. Gwnaethan nhw’n aruthrol o dan yr amgylchiadau, ond mae’n dal yn wir, i blant o aelwydydd di-Gymraeg, bod y trochi sy’n cael ei ddarparu gan eu hysgol yn hanfodol bwysig i ennill rhugledd a chymhwysedd ieithyddol a’u cadw. Mewn rhai achosion eithafol bu’r her yn ormod, a throsglwyddodd dyrnaid o blant i ysgolion cyfrwng Saesneg. Cafodd arolwg Llywodraeth Cymru o ddysgwyr presennol 16 oed neu’n hŷn ar ddiwedd 2020 6,088 o ymatebion, 15% ohonyn nhw’n rhugl yn y Gymraeg. Roedd y mwyafrif (79%) yn fodlon ar argaeledd adnoddau Cymraeg ond nid yw hynny’n ymdrin â sut gwnaethan nhw ymdopi â cholli’r profiad trochi.
I unrhyw un dan 16 oed yn Ne-ddwyrain Cymru, lle mae’r mwyafrif o ddisgyblion Cyfrwng Cymraeg yn dod o deuluoedd di-Gymraeg, roedd effeithiau canlyniadol y cyfnod clo i’w clywed adeg ailagor ysgolion ym Mawrth ac Ebrill. Ychydig iawn o Gymraeg oedd yn cael ei defnyddio yn iard yr ysgol a dechreuodd proses o adennill yr iaith. Ychydig o fisoedd wedi hynny, mae pethau’n gwella’n araf deg – mae mwy o Gymraeg yn ystod amser chwarae – ond dwedodd un gweithiwr proffesiynol addysg gynradd wrthyf fi y bydd yn cymryd hyd at flwyddyn i adfer y cynnydd blaenorol.
Gan symud i ffwrdd o addysg, ond yn aros gyda’n pobl ifanc, mae effeithiau cymdeithasol creulon dau gyfnod clo wedi cael eu teimlo mewn llawer man, o gylchoedd chwarae Cymraeg sy’n porthi i mewn i Gylchoedd Meithrin i glybiau ieuenctid Cymraeg, i ganolfannau antur awyr agored Cymraeg ac i Eisteddfod yr Urdd yn symud ar-lein dwy flynedd yn olynol, mae ein siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ifanc wedi cael eu hamddifadu o’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned, yn ystod gweithgareddau difyr, chwaraeon, ac yn y celfyddydau. Er i’r Mudiad Meithrin, yr Urdd a phob Menter Iaith wneud gwaith bendigedig wrth symud pethau ar-lein, ‘dyw hynny jest ddim yr un peth.
I ni oedolion, pwy sydd am fod ar eu cyfrifiadur drwy’r dydd ac yna ymuno â digwyddiad cymdeithasol ar-lein gyda’r hwyr? Cafodd fy nghyfarfod Clwb Gwawr misol lleol eu lleihau i achlysur cadeiriau plygu ar bellter cymdeithasol yn y parc a chwrdd Nadolig arbennig rhithiol. Rydyn ni wedi colli gwyliau di-rif – yr Eisteddfod Genedlaethol, gwyliau cerdd, sioeau amaethyddol, yr holl leoedd lle allai’r Gymraeg gael ei siarad a’i dathlu. Cafodd digwyddiadau lleol iawn, enaid cymuned yn aml, eu difetha. Nid yw fy rhieni, yn eu ‘blynyddoedd euraid’ erbyn hyn, wedi’u cysylltu’n ddigidol ac yn y bôn wedi cael eu gwahanu rhag eu holl weithgareddau Cymraeg. O leiaf roedden nhw’n cael siarad â’i gilydd?!
Yn olaf, i drafod mater pobl yn symud o ardaloedd trefol i gadarnleoedd gwledig y Gymraeg a’i effaith ar y farchnad dai ac yn ddiofyn ar y Gymraeg. Nawr dyna agwedd swmpus ar effaith Covid. Yn anffodus/ ffodus, mae gan flogiau gyfyngiad o 1,000 o eiriau ac well i mi stopio cyn codi’r ysgyfarnog benodol honno. Tro arall efallai.
Y tro nesaf
Yn ail ran y gyfres yma, edrychwn ar sut mae pawb yng Nghymru yn gallu cefnogi’r ymdrech i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
*Mae clwb sgwrsio prynhawn Gwener Bethan i ddysgwyr canolradd ac uwch ‘Siawns am Sgwrs’ i’w weld yn adran digwyddiadau Duolingo, yn ystod y tymor, neu gallwch chi anfon e-bost ati yn: [email protected]