Cyrraedd miliwn – Ymdrechwn fel tîm

Mae ail erthygl Bethan Harrington mewn cyfres am yr iaith Gymraeg yn edrych ar sut allwn ni i gyd helpu i gyflawni nod y llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Felly, os ydych chi’n siarad Cymraeg yn barod, darllenwch ymlaen. Os nad ydych chi’n ei siarad eto neu ddim yn credu y byddwch chi byth, cewch chi ddarllen ymlaen hefyd. Mae yna rôl i bawb yn y genhadaeth hon.

Mae’n adeg yna’r flwyddyn eto pan fo’r plant yn ôl yn yr ysgol ac mae oedolion ledled Cymru yn cofrestru am wersi Cymraeg – wel, on’d ydych chi? Os nad ydych chi wedi gwneud eto, dyma’r amser i wirio amserlen eich darparwr lleol i ddod o hyd i sesiwn sy’n addas. Fel arfer mae gwersi’n cychwyn rhwng canol Medi a Hydref cynnar felly ymlaen â chi i fachu’r dosbarth yna!

Os ydych chi’n mentro i fyd dysgu Cymraeg yr hydref yma, yna pwy orau i roi tipyn o gyngor defnyddiol i chi na dysgwyr sydd wedi troedio’r llwybr o’ch blaen. Mae’r dysgwyr uwch yn fy *nghlwb sgwrsio wythnosol wedi bod yn hapus i rannu beth oedd yn fwyaf defnyddiol iddyn nhw:

Awgrymiadau gan ddysgwyr

Chwaraewch gemau syml i ddysgu geirfa (bydd gan eich darparwr lawer ohonon nhw i rannu)

  • Manteisiwch ar bob cyfle posib i ymarfer siarad – yn bersonol neu ar-lein
  • Ymunwch â chynllun Siarad Siarad (ar ôl i chi gyrraedd lefel ganolradd) i ddod o hyd i gyfaill rhugl i’ch hun https://learnwelsh.cymru/learning/siarad/
  • Ewch ar gwrs preswyl (e.e. yn Llanbedr Pont Steffan, Nant Gwrtheyrn neu Langrannog)
  • Mynychwch gyrsiau penwythnos yn ogystal â’ch gwersi wythnosol

Sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr

Credwch neu beidio, does dim clem gan rai siaradwyr Cymraeg am sut i helpu dysgwyr. Dyma rai awgrymiadau am sut i wella’ch sgiliau cefnogi:

  • Siaradwch ychydig yn arafach nag y byddech chi fel arfer.
  • Byddwch yn amyneddgar – arhoswch am atebion, peidiwch â neidio i mewn, peidiwch â gorffen brawddegau dros ddysgwyr.
  • Peidiwch â rhoi gair iddyn nhw oni bai eu bod yn gofyn i chi wneud.
  • Peidiwch â dechrau siarad Saesneg (oni bai eu bod wedi blino’n lân ac yn gofyn am seibiant).
  • Ewch yn gyfaill yng nghynllun Siarad Siarad.
  • Cefnogwch ddysgwyr o bob oedran a lefel drwy fod, wel, yn gefnogol! Anogwch, cynigiwch helpu gyda gwaith cartref /ynganiad, anfonwch negeseuon testun sylfaenol yn y Gymraeg.

Beth mae siardwyr Cymraeg yn gallu ei wneud i’n helpu i gyrraedd miliwn

Efallai bod hyn yn swnio’n amlwg ond os gallwch chi ei siarad, defnyddiwch hi!  Defnyddiwch hi neu ei cholli, bobl.

Siaradwch yr iaith yn gyhoeddus fel ei bod yn cael ei chlywed yn eich cymuned. Bydd hyn yn dangos bod yr iaith yn bodoli a’i bod yn fyw ac yn iach.

Os bydd pobl yn chwilfrydig ar ôl eich clywed chi’n siarad yr iaith, dwedwch wrthyn nhw amdani a sut/ble maen nhw’n gallu ei dysgu (gweler yr Adnoddau isod). Lledwch y gair.

Sut mae pobl ddi-gymraeg yn gallu cefnogi’r nod o gyrrafedd miliwn

  • Cofrestrwch am wersi Cymraeg (afraid dweud).
  • Os na allwch chi ei dysgu eich hun, byddwch yn gefnogol o’r sawl sy’n rhoi cynnig arni.
  • Dysgwch am yr iaith – ei gwreiddiau a’i hanes (chwiliwch Harri’r 8fed, Brad y Llyfrau Gleision a’r Welsh Not).
  • Peidiwch â pharhau’r mythau am yr iaith – cymerwch ei rhan – yr un mwyaf cyffredin yw nad oes gan y Gymraeg unrhyw lafariaid. Mewn gwirionedd, mae ganddi fwy na Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg. Mae gan y Gymraeg 7 llafariad, diolch yn fawr: a,e,i,o,u,w,y.
  • Dysgwch y ffordd gywir o ynganu’ch enwau lleoedd lleol – ‘dyw hi ddim mor anodd â hynny!
  • Dysgwch am sut arweiniodd diffyg ymchwil ar sail tystiolaeth i ddwyieithrwydd at bobl yn troi eu cefn ar yr iaith yn y gorffennol a sut mae tystiolaeth yn bodoli erbyn hyn i gefnogi ei thwf.
  • Cadwch yr enw Cymraeg a oedd gan eich tŷ, neu os nad ydych chi’n ei hoffi, dewch o hyd i ddewis Cymraeg da arall.
  • Os ‘Tŷ’ rhywbeth neu’i gilydd ydy enw’ch tŷ, mynnwch gadw’r to bach dros yr y pan gewch chi’ch arwydd llechen newydd wedi’i gwneud. Heb y to bach mae’r Ty yn ddi-ystyr (gwall rwy’n ei gasáu’n arbennig yw toau bach sydd ar goll ond cadwaf hynny am ryw dro arall).

Efallai bod y pethau hyn i gyd yn swnio’n bethau bach ond fel y dwedodd Dewi Sant – “Gwnewch y Pethau Bychain”.

O ran adnoddau ar gyfer dysgwyr mae cynifer ar gael y dyddiau hyn mae’n anodd gwybod ble i ddechrau. Dyma’r deg sydd orau yn fy marn i:

Y 10 Adondd Gorau

  1. Duolingo https://www.duolingo.com/course/cy/en/Learn-Welsh ffordd ddifyr a syml o ddysgu geirfa ac ynganiad – gallwch chi gystadlu yn erbyn eich cyd-ddysgwyr hefyd os dyna sy’n mynd â’ch pryd chi.
  2. learnwelsh.cymru  / dysgucymraeg.cymru https://learnwelsh.cymru/ sy’n cynnwys pob darparwr yn y wlad fel y gallwch chi ddod o hyd i opsiynau gwersi mewn un man ynghyd ag adnoddau dysgu hefyd.
  3. Say Something in Welsh https://www.saysomethingin.com/welsh sy’n cynnig ffordd arall o ddysgu, gan ganolbwyntio ar sgiliau siarad.
  4. Radio Cymru https://www.bbc.co.uk/sounds/play/live:bbc_radio_cymru efallai na fyddwch chi’n deall llawer i ddechrau ond dewch o hyd i raglen rydych chi’n ei hoffi ac ymdrochwch mewn llerefydd a cherddoriaeth o bryd i’w gilydd.
  5. S4C https://www.s4c.cymru/en/ sydd â sianel ar-lein i ddysgwyr, fel rhan o’u gwasanaeth ar gais, Clic. Gallwch chi ddefnyddio isdeitlau Saesneg neu isdeitlau Cymraeg symlach. Mae S4C yn darlledu rhaglenni yn benodol i ddysgwyr bob bore Sul hefyd, gan gynnwys rhaglen newyddion Cymraeg syml iawn.
  6. Mentrau iaith rhanbarthol https://mentrauiaith.cymru/en/find-a-menterfind-a-menter/ mae yna un ym mhob rhan o Gymru felly dewch o hyd i’r un yn eich ardal chi a holwch am ddigwyddiadau sy’n addas i ddysgwyr.
  7. Mudiad Meithrin https://meithrin.cymru/?lang=en yw’r sefydliad i blant cyn-ysgol, sy’n rhedeg Clwb Cwtsh i rieni ddechrau dysgu gyda’u babanod, ynghyd â Chylchoedd Meithrin (grwpiau chwarae a meithrinfeydd).
  8. Urdd Gobaith Cymru https://www.urdd.cymru/cy/ yw’r mudiad Cymraeg sy’n trefnu eisteddfod genedlaethol y plant, gwersylloedd preswyl a chlybiau ôl-ysgol a gwyliau ledled y wlad.
  9. Yr Eisteddfod Genedlaethol https://eisteddfod.cymru/eisteddfod-genedlaethol-cymru (i’r plant mawr) yw mecca y Gymraeg a diwylliant Cymru lle gallwch chi fynd i gyngerdd neu fynychu seremoni, gwylio drama neu ddarllen barddoniaeth, canu mewn côr neu edrych ar dipyn o gelf – beth bynnag sy’n mynd â’ch pryd, byddwch yn dod o hyd iddo yma.
  10. Gwyliau cerddoriaeth – mae cerddoriaeth yn ffordd ragorol o ddysgu iaith felly cadwch lygad allan am yr holl wyliau a fydd yn dod yn ôl yn 2022.

Oes gennych chi rai i’w hychwanegu? Beth yw’ch hoff rai chi? Beth arall gallwn ni i gyd ei wneud i helpu i gyrraedd miliwn?

*Gellir dod o hyd i glwb sgwrsio Bethan i ddysgwyr canolradd ac uwch ‘Siawns am Sgwrs’ yn adran digwyddiadau Duolingo yn ystod y tymor, neu gallwch chi anfon e-bost ati yn: [email protected]