Mynd i’r afael â’r bwlch ymgysylltu: pwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned wrth lunio ein lleoedd
Y brîff
Fel arbenigwr mewn ymgysylltu â’r gymuned, roedd Grasshopper eisiau deall pa mor effeithiol yr oedd pobl yn cael eu cynnwys mewn cynigion datblygu newydd.
Gwahoddwyd Aelodau Seneddol, Aelodau’r Senedd, aelodau ward a chynghorwyr o bob rhan o Gymru i roi eu barn ar geisiadau cynllunio. Gofynnom a yw cymunedau yn cael cyfle gwirioneddol i gynllunio dyfodol y lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.
Ein canfyddiadau
Nid yw pobl yng Nghymru yn cael eu clywed – dywedodd bron i ddau draean o’r bobl a holwyd nad yw ymgysylltu â’r gymuned yn dylanwadu ar gynlluniau.
Er bod y pandemig wedi cyflymu’r defnydd o offer digidol, cred y mwyafrif llethol o ymatebwyr mai cymysgedd o ymgysylltu digidol ac wyneb yn wyneb yw’r ffordd orau o ymgysylltu o hyd.
Er bod lefel uchel o ymgysylltu yn y cam cyn ymgeisio, mae llai o bobl yn ymgysylltu ar ôl cyflwyno, gan arwain at ddiffyg hyder yn y broses.
Mae angen brys i gau’r bwlch ymgysylltu drwy gyfathrebu mwy ystyrlon a pharhaus. Gall fod yn anodd ymgynghori, cynnwys a chydweithio â chymunedau a rhanddeiliaid, ond mae’n hollbwysig wrth geisio dod â newid lleol er budd cenedlaethau’r dyfodol.
I ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch yma.
Arfer gorau
Canllaw i redeg digwyddiadau rhithwir dwyieithog
P’run a ydym yn eu hoffi ai peidio, mae gweminarau a chyfarfodydd a digwyddiadau ar-lein bellach yn rhan o’n bywyd pob dydd. Ond beth sy’n digwydd os oes angen inni ymgysylltu mewn mwy nag un iaith?
Yn Grasshopper, rydym wedi arfer darparu deunyddiau ymgynghori yn Gymraeg a Saesneg mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb, ond mae’r pandemig wedi agor y drws i lwyfannu digwyddiadau dwyieithog gan ddefnyddio technoleg cyfieithu ar y pryd ar-lein. Mae digwyddiad dwyieithog llwyddiannus yn cymryd amser ac ymdrech i’w wneud yn iawn.
Mae ychydig o lwyfannau ar gael a all ddarparu nodwedd cyfieithu ar y pryd, ond ein dewis presennol yw Zoom. Dyma rai awgrymiadau ar sut i baratoi:
- Mae angen 3 diwrnod gwaith ar Zoom i sefydlu’r nodwedd cyfieithu ar y pryd yn eich cyfrif, felly gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau cynllunio!
- Sicrhewch eich bod yn sefydlu eich digwyddiad yn gywir. Mae canllawiau cam wrth gam ar wefan Zoom, megis: https://support.zoom.us/hc/en-us/articles/360034919791-Translating-your-meeting-or-webinar
- Wrth drefnu gweminar, sicrhewch eich bod yn clicio ‘Galluogi Sesiwn Ymarfer’, ‘Recordio gweminar yn awtomatig ar y cyfrifiadur lleol’ a ‘Cyfieithu ar y pryd iaith wedi’i alluogi’.
Paratoi cyfranogwyr
Bydd angen i’ch mynychwyr hefyd wneud newidiadau i’w galluogi i wrando ar y cyfieithiad. Dyma beth rydym yn awgrymu eich bod yn anfon at y cyfranogwyr ymlaen llaw:
- Y ffordd orau o wylio a gwrando ar ddigwyddiadau dwyieithog yw ar gyfrifiadur personol (yn hytrach na ffôn clyfar/llechen).
- Rhaid i gyfranogwyr lawrlwytho’r ap Zoom i’w dyfais (ni fydd y porwr yn gweithio). Cynhwyswch ddolen i’r dudalen lawrlwytho a dewiswch ‘Cleient Zoom ar gyfer Cyfarfodydd’.
- Cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i roi’r ap ar waith, a chynnig rhywfaint o hyfforddiant cyn y digwyddiad os oes angen.
Cadw’ch cyfieithydd yn hapus
Mae cyfieithu ar y pryd yn alwedigaeth sy’n peri straen, ac mae cyfyngiad ar ba mor hir y gall cyfieithydd weithio – y rheol gyffredinol yw 20 i 30 munud ar y tro. Cofiwch hyn wrth baratoi trefn y digwyddiad a threfnu siaradwyr mewn ffordd sy’n rhoi seibiant naturiol i’r cyfieithydd.
Ymarfer
Argymhellwn gynnal cyfres o ymarferion gyda’ch cydweithwyr. Ar ddiwrnod y digwyddiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael sesiwn ymarfer gyda’ch panelwyr a’ch cyfieithydd cyn i’r digwyddiad fynd yn fyw.
Dechrau’r gweminar
Unwaith y byddwch wedi pwyso’r botwm ‘Dechrau Gweminar’ i adael y cyhoedd i mewn, gwnewch gyflwyniad technegol anffurfiol i egluro:
- Mae angen ap Zoom i clywed y cyfieithu ar y pryd – awgrymwch fod unrhyw un hebddo yn gadael i’w lawrlwytho ac yn dychwelyd drwyddo.
- Sut i glywed y cyfieithu ar y pryd: symudwch y llygoden i weld yr eicon glôb ar waelod y sgrin. Cliciwch ar y glôb a dewiswch yr iaith cyfieithu (does dim eicon ar Mac, mae tri dot ar yr ochr dde uchaf ar gyfer dewis iaith).
- Os yw eich sain yn ddwyieithog, mae’n debyg y bydd eich gweledigaeth hefyd yn ddwyieithog. Rydym yn ffafrio’r dull sgrin hollt gyda’r Gymraeg ar y chwith a’r Saesneg ar y dde – dewiswch y modd ‘Ochr yn Ochr’ o’r gwymplen wrth ymyl y bar gwyrdd ar frig y sgrin.
Recordiadau
Os oes angen recordiadau o’ch gweminar yn y ddwy iaith fel y gellir eu rhoi ar wefan, dim ond un dull sydd ar gael. Mae un aelod o’r tîm yn recordio’n lleol mewn un iaith tra bod aelod arall yn recordio trac y cyfieithydd.
Ac yn olaf…
- Sicrhewch fod manylion eich cyfieithydd wrth law
- Gwnewch rywun arall yn gyd-westeiwr (a sicrhewch fod ganddynt eich cyflwyniad, sgript a threfn rhedeg) fel y gallant hefyd reoli’r sesiwn os bydd toriad pŵer / y rhyngrwyd yn mynd i lawr
- Rhaid ymarfer, ymarfer, ymarfer
Cymerwch agwedd senario waethaf tuag at yr holl beth, a bydd gennych gyfle gwell o gynnal digwyddiad heb ddamwain. Pob lwc!