Vattenfall – codi ymwybyddiaeth o fanteision partneriaethau preifat-cymunedol
Cysylltiadau cyfryngau
Cyfryngau cymdeithasol
Gwasanaethau creadigol
Trosolwg
Mae Grasshopper wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni ynni adnewyddadwy Vattenfall ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru i helpu i godi proffil yr effaith sosio-economaidd mae ei brosiectau yn ei chael o fewn cymunedau lleol.
Beth wnaethom ni
Gweithiodd Grasshopper ar ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus fer i helpu i godi proffil Fferm Wynt Pen y Cymoedd Vattenfall ar lefel ranbarthol. Roedd hyn yn gofyn am gyfathrebu ei heffaith gadarnhaol ar gymunedau, yr amgylchedd a’r economi. Ymhlith y tactegau roedd cymysgedd o newyddion am fuddsoddiad yn y gymuned, datblygu astudiaeth achos a chyfryngau cymdeithasol.
Canlyniadau
Roedd y sylw a ddenodd yn cynnwys y Western Mail, Wales Online, Business Green ac ymdriniaeth pum munud ar slot newyddion penwythnos ITV Wales. Yn ôl yr amcangyfrif, cyrhaeddodd yr ymgyrch fwy na 2.1m o bobl.