Natur am Byth – Ysbrydoli gweithredu dros rywogaethau sydd mewn perygl

Strategaeth Gyfathrebu

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Gwasanaethau Creadigol

Darparu Hyffordiant

Trosolwg

Cafodd Grasshopper ei benodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio ar Natur am Byth, rhaglen Adferiad Gwyrdd flaenllaw sy’n dod â 9 corff anllywodraethol amgylcheddol ynghyd o bob rhan o Gymru i gyflenwi rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad. Er bod y rhaglen yn dal i gael ei datblygu, darparodd Grasshopper gymorth cyfathrebu arbenigol i gyd-fynd â chais y rhaglen am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Beth wnaethom ni

Lluniodd Grasshopper strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr i gynllunio cyfathrebu mewnol ac allanol yn fanwl, creu ‘Arweiniad Fframio’ i helpu elusennau i ddefnyddio negeseuon i ysbrydoli gweithredu dros natur, a chyflwyno sesiwn hyfforddiant ar sut i ymgorffori ‘cadwraeth rhywogaethau’ mewn cynlluniau prosiect. Yn ogystal â chydgysylltu â thîm Natur am Byth, gweithiom ni gydag elusennau, partneriaid ac ymghynghorwyr amgylcheddol eraill sy’n gweithio ar y rhaglen. .