Llywodraeth Cymru – codi ymwybyddiaeth o gamau positif ynghylch newid hinsawdd yng Nghymru
Cysylltiadau Cyhoeddus
Cysylltiadau â’r Cyfryngau
Cyfryngau Cymdeithasol
Strategaeth Gyfathrebu
Negeseuon
Hysbysebion Golygyddol
Gweithiodd Grasshopper ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ar ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o unigolion, sefydliadau a busnesau sy’n gweithio i leihau effeithiau newid hinsawdd.
Cafodd cyfnod un yr ymgyrch ei amseru o gwmpas COP27 ac Wythnos Hinsawdd Cymru yn Nhachwedd 2022 i helpu i hybu a sbarduno ymddygiad positif o ran newid yn yr hinsawdd.
Beth wnaethom ni
Cefnogodd Grasshopper ddatblygiad negeseuon yr ymgyrch a chreodd gyfres o astsudiaethau achos a gyfeiriodd at ddetholiad o sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Gweithiom ni gyda Wales Online i gynhyrchu pedair hysbyseb olygyddol ddwyieithog a ganolbwyntiodd ar feysydd allweddol sy’n cyfrannu’n arwyddocaol at leihau allyriadau carbon i’r atmosffer, sef: tai, defnydd ynni, teithio a’n hymddygiad ni fel defnyddwyr.
Hefyd creom ni becyn cymorth cyfryngau cymdeithasol er mwyn i bartneriaid hyrwyddo ymwybyddiaeth o gamau positif o ran newid yn yr hinsawdd ac estyn ein cyrhaeddiad ar-lein.
Canlyniad
Cyflawnom ni fwy na 15 darn o ymdriniaeth ar-lein ac mewn print ar draws cyfryngau Cymru, gan gynnwys Wales Online, South Wales Argus a Business News Wales.