Llywodraeth Cymru – Creu canolfan rhagoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd
Ymgysylltu â’r gymuned
Ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid
Strategaeth cyfathrebu
Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau
Rheoli digwyddiadau
Trosolwg
Penodwyd Grasshopper yn rhan o dîm amlddisgyblaethol Arup i ddarparu cymorth ynghylch cyfathrebu ac ymgysylltu i Lywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys ar gynigion am Ganolfan Rhagoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghymru, ym mlaenau Cwm Dulais.
Beth wnaethom ni
Fe wnaeth Grasshopper gynllunio, rheoli a gweithredu gweithgarwch ymgysylltu anffurfiol yn ogystal â’r broses ymgynghori cyn ymgeisio (PAC) statudol. Fe wnaethom ni gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a thîm y prosiect i ddatblygu cynnwys y wefan, trefnu a hwyluso cyfarfodydd a digwyddiadau, a rheoli cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol i helpu i annog ymgysylltu. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau briffio ategol ar gyfer Aelodau’r Senedd yn ogystal â chyhoeddiadau gan Weinidogion. Fe wnaethom baratoi adroddiad ar yr ymgynghori i’w gyflwyno gyda’r ceisiadau cynllunio yn crynhoi’r holl ymgysylltu a gynhaliwyd.
Canlyniad
Cafodd y prosiect sylw sylweddol iawn yn y cyfryngau a denodd lawer o ddiddordeb gan randdeiliaid, ac ymgysylltwyd yn lleol â mwy na 450 o bobl a ddaeth i ddigwyddiadau galw heibio lleol.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Gorffennaf 2022.