
Dadansoddi swm yr adborth – Ai AI yw’r ateb?
Yn greiddiol i’n gwerthoedd yn Grasshopper, mae ymrwymiad i annog pob rhan o’r gymuned leol, a chymaint o bobl â phosibl, i gymryd rhan a rhoi adborth ar y prosiectau ymgynghori rydym yn gweithio arnynt.
Fodd bynnag, gall hyn fod yn her i brosiectau pan ddaw llawer iawn o adborth i law, o ran sut yr ydym yn sicrhau ein bod yn dadansoddi ac yn nodi graddau llawn yr holl faterion, syniadau a sylwadau a dderbyniwyd. Gall hon fod yn broses sy’n cymryd llawer o amser.
Yn ogystal, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cydnabod ac yn ymateb yn briodol i aelodau’r gymuned a rhanddeiliaid mewn perthynas â chwestiynau penodol sy’n cael eu codi.
Pan fydd rhanddeiliaid ac unigolion wedi cymryd amser i rhoi eu syniadau neu eu hymholiadau, gall yr amser a gymerir i brosesu a chreu ymatebion gwybodus arwain at rwystredigaeth ac ymddieithrio.
Ar hyn o bryd rydym yn rheoli’r rhan fwyaf o adborth y gymuned a rhanddeiliaid gan ddefnyddio llwyfan rheoli rhanddeiliaid ar-lein, ac mae pob ymateb yn cael ei adolygu a’i dagio â llaw gan aelod o’n tîm.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddianc rhag y cynnydd mewn AI a’r potensial ar gyfer defnyddio technoleg i gyflymu dadansoddi a phrosesu data.
Gan gydnabod hyn, rydym ar hyn o bryd yn archwilio a allai AI wella ein hymagwedd. Trwy ddefnyddio algorithmau datblygedig i ddadansoddi a chategoreiddio adborth, gallem leihau’n sylweddol yr amser sydd ei angen i reoli ymatebion. Gall AI nodi tueddiadau, teimladau a chwestiynau cyffredin yn gyflym, a allai ganiatáu i ni fynd i’r afael â phryderon cyffredin yn brydlon ac yn effeithiol. Gydag ymchwil gan y llywodraeth yn dangos bod tua un o bob chwe sefydliad yn y DU eisoes wedi croesawu o leiaf un dechnoleg AI, mae’r potensial ar gyfer AI yn ein sector yn glir.1
Fodd bynnag, nid yw integreiddio AI i’n harferion ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned heb ei heriau:
Cywirdeb a dibynadwyedd ymatebion a gynhyrchir gan AI; er y gall Deallusrwydd Artiffisial gyflymu’r broses, mae perygl o hyd y gallai rhai ymholiadau gael eu camddehongli neu eu hanwybyddu. Mae hyn yn gofyn am system gadarn o wirio a chydbwyso i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn ystyrlon.
Mae cydbwyso cyflymder ag ansawdd yn hanfodol; mae pryder dilys y gallai gorddibyniaeth ar AI rwystro ymgysylltiad gwirioneddol os yw rhanddeiliaid yn teimlo bod eu lleisiau unigryw yn cael eu lleihau i bwyntiau data yn unig.
Yn Grasshopper, ‘Cael pobl i siarad yw’r hyn a wnawn’. Er nad ydym eto’n datblygu fframwaith penodol ar gyfer integreiddio AI, rydym yn cydnabod y manteision posibl sydd ganddo o ran gwella ein harferion ymgysylltu. Rydym wedi ymrwymo i archwilio galluoedd AI i symleiddio a chryfhau ein prosesau wrth sicrhau bod pob llais yn ein cymunedau yn cael ei glywed a’i werthfawrogi.
Trwy ddefnyddio technoleg yn feddylgar, mae gennym y potensial i wella ein rhyngweithio â rhanddeiliaid a chymunedau fel ei gilydd, gan ddarparu mwy o werth yn y pen draw i’n cleientiaid ym mhob sector, gan sicrhau bod eu prosiectau’n cael eu llywio gan fewnwelediadau amserol a pherthnasol.
Nid oes gennym yr ateb eto i weld os neu sut y byddwn yn integreiddio AI yn ein dadansoddiad o adborth ymgynghori, ond byddwn yn edrych yn fanwl ar hyn dros y misoedd nesaf.