Llunio Dyfodol Cymru: Dechrau’r Sgwrs Genedlaethol
Ble rydyn ni eisiau i Gymru fod erbyn 2050, a sut y gall gynllunio ein helpu i gyrraedd yno?
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar adolygiad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF), gan ddechrau Sgwrs Genedlaethol am ddyfodol Cymru.
Fel rhan o’r broses hon, mae Llywodraeth Cymru yn dod ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol ynghyd drwy drafodaethau bwrdd crwn rhyngweithiol, gan archwilio’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu Cymru drwy nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ar 30 Medi, ymunodd Hannah Dineen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn Grasshopper, gyda’r digwyddiad rhanddeiliaid cyntaf yng Nghaerdydd.
Daeth nifer o themâu pwysig i’r amlwg o’r trafodaethau:
- Darparu’r cymysgedd cywir o gartrefi yn y lleoedd cywir i greu cymunedau cynaliadwy a chydlynol.
- Cydnabod cysylltedd digidol fel seilwaith hanfodol, yn enwedig wrth leihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau.
- Creu fframwaith cynllunio cliriach, osgoi dyblygu rhwng cynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a chaniatáucynlluniau lleol i ganolbwyntio ar faterion lleol go iawn.
- Ymgysylltu â chymunedau yn gynharach, pan fo cyfle o hyd i ddylanwadu ar gynigion, meithrin ymddiriedaeth, ac o bosib lleihau oedi yn ddiweddarach yn y broses gynllunio.
Mae’r trafodaethau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu ystyrlon wrth lunio’r NDF yn y dyfodol a’r cynigion datblygu sy’n dilyn.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 20 Tachwedd 2026, gan roi cyfle i gymunedau, busnesau a gweithwyr cynllunio proffesiynol gyfrannu.