Cynhwysiant Ar-lein – Arweiniad i gynnal rhith-ddigwyddiadau dwyieithog

P’un a ydych chi’n ei hoffi beu beidio, mae gweminarau a chyfarfodydd a digwyddiadau ar-lein erbyn hyn yn rhan o’n bywydau bob dydd. Ond beth sy’n digwydd os bydd rhaid i ni ymgysylltu mewn mwy nag un iaith?

Yn Grasshopper, rydyn ni wedi arfer â chynnig deunyddiau ymgynghori yn Gymraeg a Saesneg mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb, ond mae’r pandemig wedi agor y drws i gynnal digwyddiadau dwyieithog gan ddefnyddio technoleg cyfieithu ar y pryd ar-lein. Mae digwyddiad dwyieithog llwyddiannus yn cymryd amser ac ymdrech i’w gael yn gywir.

Mae yna nifer o blatfformau sy’n gallu cynnig nodwedd cyfieithu ar y pryd ond yr un y trown ni ato’n gyson ar hyn o bryd yw Zoom. Dyma rai cynghorion am ei sefydlu:

  • Mae angen 3 diwrnod gwaith ar Zoom i osod y nodwedd gyfieithu ar eich cyfrif, felly gorau po gyntaf y dechreuwch chi’r gwaith cynllunio!
  • Sicrhewch eich bod chi’n sefydlu’ch digwyddiad yn gywir. Mae canllawiau cam wrth gam ar wefan Zoom.
  • Wrth drefnu gweminar, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n clicio ‘Enable Practice Session’, ‘Automatically record webinar on the local computer’ ac ‘Enabled language interpretation’.

 

Paratoi’r cyfranogwyr

Bydd angen i’r sawl sy’n mynychu’r cyfarfod wneud newidiadau hefyd i ganiatáu iddyn nhw wrando ar y cyfieithiad. Dyma beth fydden ni’n awgrymu eich bod chi’n ei anfon at gyfranogwyr ymlaen llaw:

  • Mae’n well gwylio a gwrando ar ddigwyddiadau dwyieithog ar PC/cyfrifiadur (yn hytrach na ffôn clyfar/gliniadur).
  • Rhaid bod cyfranogwyr wedi lawrlwytho ap Zoom i’w dyfais (fydd y porwr ddim yn gweithio). Cynhwyswch ddolen i dudalen y lawrlwythiad a dewiswch ‘Zoom Client for Meetings’.
  • Cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i sefydlu a rhedeg yr ap a chynigiwch dipyn o hyfforddiant cyn y digwyddiad os bydd angen.

 

Cadw’ch cyfieithydd yn hapus

Mae cyfieithu ar y pryd yn alwedigaeth sy’n mynnu llawer o ganolbwyntio ac mae yna derfyn i faint o amser mae cyfieithydd yn gallu gweithio – rheol fras yw 20 i 30 munud ar y tro.  Cadwch hyn mewn cof wrth gynllunio rhediad y digwyddiad a threfnwch siaradwyr mewn modd sy’n rhoi hoe naturiol i’r cyfieithydd.

 

Ymarfer

Bydden ni’n awgrymu cynnal cyfres o ymarferion gyda’ch cydweithwyr. Ar ddiwrnod y digwyddiad, gwnewch yn siŵr y cynhaliwch chi sesiwn ymarfer gyda’ch panelwyr go iawn a’r cyfieithydd cyn i’r digwyddiad fynd yn fyw.

 

Cychwyn y weminar

Ar ôl i chi wasgu’r botwm ‘Start Webinar’ i adael y cyhoedd i mewn, gwnewch gyflwyniad technegol anffurfiol i esbonio:

  • Bod angen ap Zoom i gyrchu cyfieithiad – awgrymwch fod unrhyw un hebddo yn gadael er mwyn ei lawrlwytho, ac yn dod yn ôl trwy gyfrwng yr ap.
  • Sut i wrando ar y cyfieithiad: symudwch y llygoden i weld eicon y glob ar waelod y sgrin. Cliciwch y glob a dewiswch iaith y cyfieithiad (ar Mac does dim eicon, mae ganddo dri dot yn y gornel dde uchaf ar gyfer dewis iaith).
  • Os ydy’ch awdio yn ddwyieithog, yna mae’n fwy na thebyg y bydd eich yr hyn a welwch chi mewn dwy iaith hefyd. Rydyn ni’n ffafrio dull hollti sgrin gyda’r Gymraeg ar y chwith a Saesneg ar y dde – dewiswch ddull ‘Side-by-Side’ o’r gwymplen wrth ymyl y bar gwyrdd ar frig y sgrin.

 

Recordiadau

Os oes angen recordinadau o’ch gweminar arnoch chi yn y ddwy iaith i allu eu rhoi ar wefan, dim ond un dull sydd ar gael. Mae un aelod y tîm yn recordio’n lleol mewn un iaith tra bod aelod arall yn recordio trac y cyfieithydd.

 

Ac yn olaf…

  • Cadwch fanylion eich cyfieithydd wrth law
  • Gwnewch rywun arall yn gyd-westeiwr (a sicrhewch fod ganddyn nhw eich cyflwyniad, eich sgript a’ch trefn redeg) fel eu bod nhw’n gallu rheoli’r sesiwn hefyd os bydd yna doriad pŵer / eich rhyngrwyd yn methu
  • Ymarfer, ymarfer, ymarfer

 

Drwy ragweld y senario gwaethaf posibl ar bob cam, bydd gennych chi siawns lawer gwell o gynnal digwyddiad sy’n rhydd rhag anffawd. Pob lwc!