Y Gymraeg yn Grasshopper: o’r Dechreuwr i’r Rhugl

Dechreuodd y cyfan gyda ‘Bore Da’…

Cymru ydy’n cartref ni – dyma lle dechreuon ni, dyma leoliad y rhan fwyaf o’n tîm a ble rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth. Mae hynny’n golygu bod y Gymraeg yn hynod o bwysig i’r tîm ac i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Yn 2020, ymunodd Bethan â thîm Grasshopper i wella ein gwaith hwyluso Cymraeg i gleientiaid – ar y pryd, hi oedd yr unig siaradwr Cymraeg rhugl yn y tîm. Ers hynny, rydyn ni wedi cynnal gweminarau dwyieithog, ymgynghoriadau dwyieithog, a chynnal cyfres blogiau am y Gymraeg a Covid.

Ond digwyddodd rhywbeth arall. Ymhen dim ond 18 mis, mae gan ychydig o dan hanner tîm Grasshopper sgiliau Cymraeg bellach sy’n amrywio o ddechreuwyr i fod yn rhugl. Mae hynny’n naid enfawr.

Felly, sut digwyddodd hynny?

Dechreuodd hi gydag ynganiad. Bydden ni’n cael llawer o hwyl mewn cyfarfodydd tîm yn perffeithio ynganiad enwau lleoedd yn, dweder, Blaenau Gwent neu Ynys Môn a chyfarch ein gilydd yn y Gymraeg (Bore da!)

Yn fuan wedi hynny, dechreuodd Molly a Clare ddysgu Cymraeg. A dyma Hannah, a fynychodd wersi am 5 mlynedd yn y gorffennol, yn darganfod bod ei diddordeb hithau wedi adfywio, a phenderfynodd Iwan ail-afael yn y Gymraeg ar ôl mynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Ein gobaith yw y bydd ieithwyr eraill yn ein tîm (mae gan Julie radd mewn Ffrangeg a Lefel-A mewn Almaeneg) yn ymuno â’n taith Gymraeg hefyd.

Sut mae hyn yn dangos yn y gwaith a wnawn ni?

Y gwir amdani yw bod y Gymraeg ym mhobman – o’r ymgynghoriadau rydyn ni’n eu hwyluso, i lawr i gyfieithu ein llofnodion e-bost. Cymerwch ddigwyddiad ymgynghori, er enghraifft – mae wyneb cyfeillgar, ‘Bore da!’ a sgwrs am y prosiect yn iaith gyntaf rhywun yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy hyderus am ddod i’r digwyddiadau hyn – am eu bod nhw’n gallu bod eu hunain go iawn.

Ond nid yw’n gyfyngedig i ymwneud wyneb yn wyneb. Mae swyddogaeth gyfieithu hwylus Zoom yn caniatáu i ymgynghori â rhanddeiliaid gael ei wneud yn ddwyieithog, gyda’r gallu i wrando ac ymgysylltu yn iaith eu dewis. Achos os Cymraeg ydy iaith gyntaf rhywun, mae ond yn iawn y dylen nhw allu byw cymaint o’u bywydau â phosibl yn ei siarad. Mae’n gam pwysig wrth ymgysylltu â chymunedau Cymreig yn onest ac yn frwdfrydig, ac yn rhywbeth mae sefydliadau tu allan i Gymru weithiau’n ei esgeuluso.

Y Dyfodol

A dim ond y dechrau ydy hwn! Mae mwy y gallwn ni ei wneud i dyfu’r Gymraeg o fewn tîm Grasshopper ac yn ein gwaith – yn enwedig gyda nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg lawer o gynlluniau fel Iaith Gwaith a’r Cynnig Cymraeg, mae’r olaf yn darparu cynllun datblygu i gwmnïau ar gyfer eu gwasanaethau Cymraeg i weithio tuag at achrediad. O Fore da syml i annog mwy o gyfranogiad Cymraeg – ein gobaith ydy ysbrydoli!