Rheolwr Cyfrif, Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Chymunedau

Os hoffech gael y cais hwn mewn testun mawr neu ar ffurf sain, rhowch wybod i ni.
Teitl y swydd: Rheolwr Cyfrif, Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Chymunedau
Lleoliad: Gweithio hybrid – 2 ddiwrnod yr wythnos yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu Crawley (ger Maes Awyr Gatwick)
SICRHAU NEWID CADARNHAOL I’R BYD O’N CWMPAS
Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn gydag ochr greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn arbenigo yn y sectorau cynaliadwyedd, isadeiledd, trafnidiaeth, preswyl ac ynni adnewyddadwy. Rydym yn helpu sefydliadau i gysylltu â phobl ac i bartneru â’u cymunedau i drawsffurfio lle maent yn gweithio ac yn byw. Ein nod yw gweithio gyda chymunedau i gyflwyno prosiectau gwell a gwerth cymdeithasol parhaol.
Fel tîm, rydym wedi’n huno gan nod cyffredin – cael pobl i siarad a datgloi gwerth cymdeithasol. Mae hyn gwneud dod i’r gwaith yn ystyrlon, yn ysbrydoledig ac yn hwyl.
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer rheolwr cyfrif ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd. Os oes gennych angerdd gwirioneddol dros eich cymuned, a diddordeb mewn cynaliadwyedd – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwn addo croeso cynnes i chi, cyfle i adeiladu eich gyrfa a chael effaith gadarnhaol ar y byd o’ch cwmpas.
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad fel rheolwr cyfrifon rhanddeiliaid neu uwch weithredwr cyfrifon yn barod ar gyfer y cam nesaf. Mae potensial enfawr yn y rôl hon, ac rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu dod â’u syniadau eu hunain, sy’n ffynnu wrth weithio fel rhan o dîm yn ogystal ag yn annibynnol, ac sy’n mwynhau siarad â phobl.
Cyfrifoldebau allweddol
Cyflawni ymgynghoriad
- Creu a chyflawni cynlluniau a digwyddiadau ymgynghori, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol a chymunedol, preswylwyr, a grwpiau eraill sydd â diddordeb.
- Trefnu a chynnal digwyddiadau ymgynghori a hwyluso gweithdai.
- Drafftio copi a gweithio gyda’n cleientiaid a’n dylunwyr i greu’r holl ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer ein hymgyrchoedd a’n hymgynghoriadau.
- Adolygu adborth yr ymgynghoriad, ysgrifennu adroddiadau ac adrodd yn ôl i’n cleientiaid.
Rheoli prosiect
- Rheolaeth o ddydd i ddydd ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y prosiect
- Sicrhau y cyflawnir gweithgareddau ar amser ac o fewn y gyllideb
- Adrodd i’r Cyfarwyddwr am gymeradwyaeth ac arweiniad pan fo angen
- Cefnogi a gweithio gyda Gweithred(wyr) Cyfrifon y tîm ar gyfer y prosiect
Perthnasoedd â Chleientiaid
- Dangos gwybodaeth am fusnes y cleientiaid, eu cystadleuwyr a’r diwydiant
- Rheoli ymholiadau o ddydd i ddydd a rhoi cyngor a chefnogaeth
- Mynychu cyfarfodydd cleientiaid a chyfrannu’n effeithiol
- Ysgrifennu adroddiadau a gwerthusiadau sy’n barod i gleientiaid
Busnes newydd
- Cynorthwyo gyda pharatoi meysydd busnes newydd a chyflwyniadau
Pecyn tâl a buddion
- Cyflog: £27-30K (yn dibynnu ar leoliad a phrofiad)
- Bonws blynyddol (yn amodol ar berfformiad y cwmni)
- Dull gweithio hyblyg gydag oriau craidd 10am-4pm a threulio isafswm o ddau ddiwrnod yn y swyddfa
- Dau ddiwrnod cyflogedig y flwyddyn yn gwirfoddoli i helpu eich cymuned leol
- Cynllun pensiwn gweithle
- Hyfforddiant a DPP
Mae gwahanol bobl yn rhannu gwerthoedd gwahanol
Yn Grasshopper, pan fydd pobl dalentog yn cydweithio, credwn fod pethau gwych yn bosibl. Mae Grasshopper yn cyflogi pobl sydd â sgiliau profedig a meddyliau agored. Rydym yn cymryd camau bwriadol i greu diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar ein pwrpas i lunio byd gwell.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol, ac unrhyw nodwedd warchodedig arall.
Os oes gennych ddiddordeb mewn lleoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd, byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cam o’n proses recriwtio yn hygyrch i ymgeiswyr ag anableddau. Siaradwch â Georgina, a bydd yn gweithio gyda chi i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gallwch berfformio ar eich gorau drwy gydol eich cais.
Yn Grasshopper, rydym yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau pawb yn wahanol ac mae cael y rhyddid i ystwytho’r ffordd rydym yn gweithio yn hanfodol i’n lles. Os yw hyblygrwydd yn bwysig i chi, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais, a byddwn yn trafod sut y gallai hyn weithio yn eich rôl.
Ymgeisiwch nawr
Sut i wneud cais
Gwnewch gais am y swydd drwy e-bostio CV a llythyr eglurhaol byr yn dangos i ni sut rydych yn meddwl y byddech yn ffynnu yn y rôl hon i georgina@grasshopper-comms.co.uk, yn dweud wrthym pam fod gennych ddiddordeb a beth fyddech yn ei gyflwyno i’r rôl. Mae croeso i chi fod mor greadigol ag y dymunwch yn eich cais.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2022 am hanner dydd.