Gweinyddwr Swyddfa Rhan-amser
Teitl swydd: Gweinyddwr Swyddfa Rhan-amser
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd
Oriau: 20+ awr yr wythnos yn gweithio ar draws pedwar diwrnod
SICRHAU NEWID CADARNHAOL I’R BYD O’N CWMPAS
Ynghlych Grasshopper
Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn gydag ochr greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn creu ymgyrchoedd sy’n newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, parhaol. Rydym yn helpu llunio sgyrsiau am y byd o’n cwmpas. Boed yn deithio llesol, ynni adnewyddadwy neu dechnolegau carbon isel.
Fel tîm, rydym wedi’n huno gan nod cyffredin – cael pobl i siarad a datgloi gwerth cymdeithasol. Sy’n gwneud dod i’r gwaith yn ystyrlon, yn ysbrydoledig ac yn hwyl.
Mae gennym gyfle gwych i ymuno â’n tîm. Os hoffech chi weithio i gwmni sydd ag angerdd gwirioneddol dros y gymuned a diddordeb mewn cynaliadwyedd – yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwn addo croeso cynnes i chi, cyfle i adeiladu eich gyrfa a chael effaith gadarnhaol ar y byd o’ch cwmpas.
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn chwilio am weinyddwr brwdfrydig, a all ein helpu i ddatblygu’r rôl newydd hon. Rydym yn gweld hyn fel 20 awr i ddechrau, gyda’r bwriad o dyfu i fod yn rôl amser llawn dros amser, ond rydym yn agored i drafodaeth.
Rydym eisiau rhywun sydd ag agwedd gadarnhaol a sgiliau trefnu gwych i sicrhau bod ein dwy swyddfa yng Nghaerdydd a Crawley yn rhedeg yn esmwyth.
Cyfrifoldebau allweddol
Fel rôl newydd, byddwch yn cael y cyfle i helpu i’w siapio wrth i ni dyfu, ond yn y cyfamser rydym angen rhywun a all ein helpu gyda’r canlynol:
- Cynorthwyo’r rheolwr gyfarwyddwr gyda thasgau fel rheoli mewnflwch a dyddiadur a threfnu cyfarfodydd.
- Tasgau sylfaenol yn ymwneud â chyllid, megis mewnbynnu anfonebau.
- Gweithrediad llyfn ein dwy swyddfa, gan gynnwys archebu, storio a dosbarthu cyflenwadau swyddfa a chynnal a chadw, atgyweirio neu amnewid offer swyddfa.
- Cefnogaeth AD, megis cynorthwyo gyda ymgyrchoedd recriwtio.
- Trefnu ac archebu digwyddiadau ac ymddangosiadau.
- Cydlynu DPP
- Cefnogi cydlynu ein rhaglen CCC
- Cynorthwyo gyda chyflwyniadau tendr
- Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd mewnol
Pecyn tâl a buddion
- Cyflog: £21+K (yn dibynnu ar brofiad) (pro rata)
- Dull gweithio hyblyg gydag oriau craidd 10am-3pm
- Bonws blynyddol (yn amodol ar berfformiad y cwmni)
- Dau ddiwrnod cyflogedig y flwyddyn yn gwirfoddoli i helpu eich cymuned leol
- Cynllun pensiwn gweithle
- Hyfforddiant a DPP
Mae gwahanol bobl yn rhannu gwerthoedd gwahanol
Yn Grasshopper, pan fydd pobl dalentog yn cydweithio, credwn fod pethau gwych yn bosibl. Mae Grasshopper yn cyflogi pobl sydd â sgiliau profedig a meddyliau agored. Rydym yn cymryd camau bwriadol i greu diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar ein pwrpas i lunio byd gwell.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol, ac unrhyw nodwedd warchodedig arall.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cam o’n proses recriwtio yn hygyrch i ymgeiswyr ag anableddau. Siaradwch â Beth a bydd hi’n gweithio gyda chi i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gallwch chi berfformio ar eich gorau trwy gydol eich cais.
Yn Grasshopper rydym yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau pawb yn wahanol ac mae cael y rhyddid i ystwytho’r ffordd rydym yn gweithio yn hanfodol i’n llesiant. Os yw hyblygrwydd yn bwysig i chi, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais, a byddwn yn trafod sut y gallai hyn weithio yn eich rôl.
Ymgeisiwch nawr
Sut i wneud cais
I wneud cais e-bostiwch eich CV gyda llythyr eglurhaol byr, yn egluro eich diddordeb yn y rôl i [email protected] erbyn 5pm dydd Gwener 8 Medi 2023.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Beth ar [email protected].