Solent Gateway Limited – Dyfodol newydd ar gyfer Porthladd Marchwood
Ymgysylltu â’r gymuned
Ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid
Strategaeth cyfathrebu
Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau
Cymdeithasol a digidol
Dylunio graffeg a gwasanaethau creadigol
Rheoli digwyddiadau
Trosolwg
Sicrhaodd Solent Gateway gonsesiwn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddatblygu Porthladd Marchwood yn borthladd masnachol. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod 2020 a 2021 i ategu cais cynllunio hybrid ar gyfer y safle.
Beth wnaethom ni
Darparodd Grasshopper waith ymgysylltu â’r gymuned leol, ynghyd â rhaglen gadarn o ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid. Roedd hyn yn cynnwys arddangosfa rithwir i ddangos sut y byddai’r porthladd newydd yn edrych ac yn teimlo, a strategaeth a darpariaeth ar gyfryngau traddodiadol a chyfryngau cymdeithasol.
Canlyniad
Cefnogwyd y cais gan randdeiliaid allweddol gan gynnwys Cyngor Plwyf Marchwood, Partneriaeth Menter Leol Solent, Siambr Fasnach Hampshire, a Phartneriaeth Busnes New Forest, a chafwyd caniatâd cynllunio gan Gyngor Dosbarth New Forest.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio yng ngwanwyn 2022.