
Ôl-osod er mwyn Optimeiddio – Helpu preswylwyr i ddatgarboneiddio eu cartrefi
Ymgysylltu â’r gymuned
Ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid
Strategaeth cyfathrebu
Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â’r cyfryngau
Cymdeithasol a digidol
Dylunio graffeg a gwasanaethau creadigol
Rheoli digwyddiadau
Trosolwg
Mae prosiect braenaru Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn un o nifer o brosiectau ôl-osod yng Nghymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, a’i fwriad yw hybu arloesedd ac arfer gorau o ran datgarboneiddio cartrefi.
Yn ystod cam 1, fe wnaeth 68 o bartneriaid gydweithredu, yn cynnwys 26 o ddarparwyr tai cymdeithasol, a dyfarnwyd gwerth dros £13m o nawdd gan Lywodraeth Cymru i ôl-osod dros 1,700 o gartrefi ledled Cymru.
Beth wnaethom ni
Fel partner cyfathrebu’r rhaglen, darparodd Grasshopper weithgarwch cyfathrebu a lledaenu strategol ar ran ymbarél Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Roedd hynny’n cynnwys cynnal cyfarfodydd rheolaidd y Grŵp Llywio Cyfathrebu, creu llawlyfr cyfathrebu a llyfrgell asedau ar gyfer partneriaid, rheoli sianeli cymdeithasol a gwefan y prosiect, gweithredu rhaglen cysylltiadau â’r cyfryngau, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid y diwydiant a chynrychiolwyr gwleidyddol.
Mae Grasshopper hefyd wedi cydweithio â Choleg Prifysgol Llundain i brofi ymddygiadau a mireinio negeseuon a naratif, i fynd i’r afael â’r heriau o ran perswadio preswylwyr i gofrestru i ôl-osod.
Gwnaethpwyd gwaith hefyd i ymgysylltu â busnesau bach a chanolig a chrefftwyr i helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a datblygu’r gadwyn gyflenwi ôl-osod, gan gynnwys cynnal digwyddiadau ar y cyd â Busnes Cymru a GwerthwchiGymru.
Canlyniad
Yn ogystal â helpu i godi proffil y gwaith sy’n cael ei wneud gan brosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio ledled Cymru ac ar lefel y DU, cwblhaodd Grasshopper waith ar brofi negeseuon i breswylwyr, â chymorth tîm gwyddor ymddygiad Coleg Prifysgol Llundain, i danategu cyfathrebu â phreswylwyr yn y dyfodol.