Swyddog Gweithredol Cyfrifon

Teitl swydd: Swyddog Gweithredol Cyfrifon 

Lleoliad: Caerdydd neu Crawley  

 

SICRHAU NEWID CADARNHAOL I’R BYD O’N CWMPAS 

Rydyn ni’n chwilio am berson graddedig brwdfrydig, yn ddelfrydol gyda chymhwyster mewn Gwleidyddiaeth neu Gyfathrebu. Rydyn ni eisiau rhywun sydd ag agwedd gadarnhaol, gyda sgiliau ysgrifennu gwych a diddordeb mewn materion cyfoes. 

Ynghylch Grasshopper 

Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn sydd ag agwedd greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn creu ymgyrchoedd sy’n newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, parhaol. Rydym yn helpu i lunio sgyrsiau am y byd o’n cwmpas. Boed yn deithio gweithredol, ynni adnewyddadwy neu dechnolegau carbon isel.   

Fel tîm, rydym yn un dan nod cyffredin – cael pobl i siarad ac agor gwerth cymdeithasol. Sy’n gwneud dod i’r gwaith yn ystyrlon, yn ysbrydoledig ac yn hwyl.  

Mae gennym gyfle gwych i ymuno â’n tîm. Os hoffech chi weithio i gwmni sydd ag angerdd go iawn dros y gymuned a diddordeb mewn cynaliadwyedd – byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Gallwn ni addo croeso cynnes i chi, cyfle i adeiladu’ch gyrfa a chael effaith gadarnhaol ar y byd o’ch cwmpas. 

Rhinweddau/sgiliau allweddol 

  • Profiad o ymchwil, ysgrifennu copi, trefnu digwyddiadau, dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau. 
  • Diddordeb mewn materion cyfoes, gwleidyddiaeth, materion amgylcheddol a chynaliadwyedd. 
  • Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith ag amrywiaeth o gleientiaid, cynrychiolwyr cymunedol a rhanddeiliaid. 
  • Gallu rheoli llwyth gwaith heriol ac amrywiol a all newid ar fyr rybudd. 
  • Dawn greadigol – agored i syniadau a ffyrdd newydd o wneud pethau. 
  • Yn ddeallus yn ddigidol, gyda dealltwriaeth o sut i ddefnyddio pŵer cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol.  

Pecyn tâl a buddion 

  • Cyflog: £23,088 (neu bwysiad cyfwerth ar gyfer Llundain)  
  • Dull gweithio hyblyg ag oriau craidd 10am-3pm 
  • Bonws blynyddol (yn amodol ar berfformiad y cwmni) 
  • Dau ddiwrnod cyflogedig y flwyddyn yn gwirfoddoli i helpu eich cymuned leol 
  • Cynllun pensiwn gweithle 
  • Hyfforddiant a DPP 

Mae gwahanol bobl yn rhannu gwerthoedd gwahanol 

Yn Grasshopper, pan fydd pobl dalentog yn cydweithio, credwn fod pethau gwych yn bosibl. Mae Grasshopper yn cyflogi pobl sydd â sgiliau profedig a meddyliau agored. Rydym yn cymryd camau bwriadol i greu diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar ein pwrpas i lunio byd gwell. 

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, ni waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol, ac unrhyw nodwedd warchodedig arall.  

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cam o’n proses recriwtio yn hygyrch i ymgeiswyr ag anableddau. Siaradwch â Hannah a bydd hi’n gweithio gyda chi i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gallwch berfformio ar eich gorau trwy gydol eich cais. 

Yn Grasshopper rydym yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau pawb yn wahanol a bod cael y rhyddid i ystwytho’r ffordd rydym yn gweithio yn hanfodol i’n llesiant. Os yw hyblygrwydd yn bwysig i chi, rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n n gwneud cais, a byddwn ni’n trafod sut y gallai hyn weithio yn eich rôl. 

Ymgeisiwch nawr

I wneud cais, e-bostiwch eich CV gyda llythyr eglurhaol byr, yn egluro eich diddordeb yn y rôl i [email protected] erbyn dydd Sul, 13 Hydref 2024. 

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, e-bostiwch [email protected] 

Dychwelyd i yrfaoedd