Rheolwr Monitro Gwleidyddol

Teitl swydd: Rheolwr Monitro Gwleidyddol 

Lleoliad: Caerdydd 

 

SICRHAU NEWID CADARNHAOL I’R BYD O’N CWMPAS 

Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol sydd â chefndir ym meysydd gwleidyddiaeth, polisi, materion cyhoeddus neu lywodraeth, i helpu datblygu a goruchwylio ein gwasanaeth monitro gwleidyddol yn Grasshopper.  

Rydym yn dymuno penodi rhywun sydd â chraffter gwleidyddol cryf, sgiliau rheoli prosiectau gwych, a hanes llwyddiannus o gyflawni mewn amgylchedd prysur.  

Ynghylch Grasshopper 

Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn sydd ag agwedd greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn helpu i lunio sgyrsiau am y byd o’n cwmpas. Boed yn deithio gweithredol, ynni adnewyddadwy neu dechnolegau carbon isel.   

Fel tîm, rydym yn un dan nod cyffredin – cael pobl i siarad ac agor gwerth cymdeithasol. Sy’n gwneud dod i’r gwaith yn ystyrlon, yn ysbrydoledig ac yn hwyl.  

Gallwn addo croeso cynnes i chi a chyfle i ddatblygu’ch gyrfa a dylanwadu’n gadarnhaol ar y byd o’ch cwmpas. 

Y rôl 

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i rywun ymuno â’n tîm materion corfforaethol sy’n tyfu a chwarae rôl allweddol o ran datblygu a rheoli ein gwasanaeth monitro gwleidyddol a chyfryngau.  

Mae’n gyfle unigryw i ymuno â thîm cyfathrebu sy’n tyfu’n gyflym yng Nghaerdydd, a gweithio gyda chleientiaid sy’n helpu i lunio dyfodol Cymru a’r DU. Bydd gennych rôl allweddol o ran ein galluogi i barhau i ehangu ein gwasanaeth monitro gwleidyddol a chyfryngau sydd eisoes wedi ennill ei blwyf, gan sicrhau y gallwn ddarparu gwybodaeth a chyngor gwleidyddol a llywodraethol o ansawdd uchel ar adegau priodol i gleientiaid.  

Dyma’r prif rinweddau a’r sgiliau rydym yn eu ceisio: 

  • Profiad o weithio mewn amgylchedd llywodraeth, gwleidyddol neu faterion cyhoeddus â dirnadaeth bendant o dirwedd materion cyhoeddus Cymru 
  • Profiad llwyddiannus o reoli prosiectau a gallu cydlynu nifer o ganlyniadau a rheoli allbynnau ansawdd 
  • Gallu cydgasglu a chrynhoi llawer iawn o wybodaeth, a sicrhau y caiff ei chyflwyno ar ffurf sy’n ddefnyddiol ac yn hygyrch i’r defnyddiwr 
  • Byddai profiad o reoli aelodau timau yn fanteisiol 
  • Sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu cryf 
  • Aelod da o dîm sy’n gallu datblygu perthnasoedd gwaith cryf ag amrywiaeth o aelodau’r tîm, cleientiaid a rhanddeiliaid 
  • Gallu rheoli llwyth gwaith heriol ac amrywiol a all newid ar fyr rybudd 
  • Gallai’r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl fod yn fuddiol ond nid yw’n hanfodol 

Pecyn tâl a buddion 

  • Cyflog: £30,000 – £40,000, yn dibynnu ar brofiad 
  • Ystyrir trefniadau gweithio rhan amser neu yn ystod tymor yr ysgol 
  • Dull gweithio hyblyg ag oriau craidd 10am-3pm 
  • Bonws blynyddol (yn amodol ar berfformiad y cwmni) 
  • Dau ddiwrnod cyflogedig y flwyddyn yn gwirfoddoli i helpu eich cymuned leol 
  • Cyfnod sabothol â thâl o bythefnos a ddarperir bob tair blynedd 
  • Cynllun pensiwn gweithle 
  • Hyfforddiant a DPP 

Mae gwahanol bobl yn rhannu gwerthoedd gwahanol 

Yn Grasshopper, pan fydd pobl dalentog yn cydweithio, credwn fod pethau gwych yn bosibl. Mae Grasshopper yn cyflogi pobl sydd â sgiliau profedig a meddyliau agored. Rydym yn cymryd camau bwriadol i greu diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar ein pwrpas i lunio byd gwell. 

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, ni waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol, ac unrhyw nodwedd warchodedig arall.  

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cam o’n proses recriwtio yn hygyrch i ymgeiswyr ag anableddau. Siaradwch â Craig a bydd ef’n gweithio gyda chi i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gallwch berfformio ar eich gorau trwy gydol eich cais. 

Yn Grasshopper rydym yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau pawb yn wahanol a bod cael y rhyddid i ystwytho’r ffordd rydym yn gweithio yn hanfodol i’n llesiant. Os yw hyblygrwydd yn bwysig i chi, rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n n gwneud cais, a byddwn ni’n trafod sut y gallai hyn weithio yn eich rôl. 

Ymgeisiwch nawr

I gyflwyno cais, e-bostiwch eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol byr, yn esbonio eich diddordeb yn y rôl, at recruitment@grasshopper-comms.co.uk erbyn 5pm ar ddydd Sul 21 Medi 2025. 

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, e-bostiwch craig@grasshopper-comms.co.uk 

Dychwelyd i yrfaoedd