Ymchwilydd (Meintiol)

Lleoliad:

Gweithio hybrid – lleiafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.

Ynghylch Grasshopper:

Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn ag agwedd greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn creu ymgyrchoedd sy’n newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, parhaol. Rydym yn helpu llunio sgyrsiau am y byd o’n cwmpas. Boed yn deithio gweithredol, ynni adnewyddadwy neu dechnolegau carbon isel.

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn datblygu ein cynnig Ymchwil a Mewnwelediad, ac mae gennym gyfle gwych i Ymchwilydd ymuno â’r tîm i’n helpu i barhau iddatblygu’r gallu hwn.  Os oes gennych ddawn am wneud data cymhleth yn ddiddorol ac yn hygyrch, ac angerdd am greu mewnwelediadau a all helpu i gael effaith gadarnhaol ar y byd o’ch cwmpas – yna byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Am bwy rydym yn chwilio?

Rydym yn chwilio am ymchwilydd brwdfrydig i’n helpu i gyflawni prosiectau ymchwil cymhleth ar ran cleientiaid yn ogystal â datblygu mewnwelediadau a gwybodaeth arferion gorau Grasshopper ei hun.

Bydd gennych arbenigedd mewn dulliau ymchwil meintiol, gyda pharodrwydd i gwblhau eich set sgiliau. Byddwch yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid yn ogystal â phobl â phrofiad bywyd. Bydd gennych ymwybyddiaeth o bolisi a gwleidyddiaeth Cymru, a brwdfrydedd i ddatblygu hyn ymhellach.

Cyfrifoldebau allweddol:

Ymchwil a dadansoddi:

  • Casglu, rheoli a dadansoddi data meintiol.
  • Dadansoddi a rheoli setiau data eilaidd (yn enwedig meintiol).
  • Cynnal adolygiadau polisi a llenyddiaeth.
  • Delweddu a chyflwyno data.
  • Cyflwyno ac adrodd ar ganfyddiadau.
  • Mewnwelediad a dylanwad.
  • Defnyddio tystiolaeth i ddatblygu cynigion ymarferol ar gyfer newid boed hynny mewn polisi, deddfwriaeth, cyllid neu arfer.
  • Datblygu dealltwriaeth o bolisi a gwleidyddiaeth Cymru a’r amgylchedd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ar gyfer newid ac addasu cynigion.
  • Helpu i nodi cynulleidfaoedd allweddol a meithrin perthnasoedd effeithiol.

Rheoli cleientiaid:

  • Arddangos sgiliau rheoli prosiect, gyda’r gallu i helpu i yrru prosiectau o fewn terfynau amser tynn ac i safon uchel, gan weithio ar eich pen eich hun a chydag eraill, weithiau mewn amgylchedd gwaith sy’n datblygu’n gyflym.

Pecyn tâl a buddion:

  • Cyflog: £28,000-£37,000 cyfwerth ag amser llawn yn dibynnu ar brofiad, a pro rata yn dibynnu ar oriau a gytunir.
  • Bonws blynyddol (yn amodol ar berfformiad y cwmni).
  • Dull gweithio hyblyg gydag oriau craidd 10am-3pm.
  • Dau ddiwrnod cyflogedig y flwyddyn yn gwirfoddoli i helpu’ch cymuned leol.
  • Cynllun pensiwn gweithle.
  • Hyfforddiant a DPP.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano:

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr â:

  • Phrofiad gwaith perthnasol megis ond heb fod yn gyfyngedig i weithio mewn llywodraeth ganolog neu leol, cyrff cyhoeddus anadrannol, ymgynghoriaeth, neu felin drafod neu brofiad ymchwil ôl-raddedig (gan gynnwys PhD).
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol gan gynnwys y gallu i gyfleu syniadau cymhleth yn effeithiol ac yn berswadiol wyneb yn wyneb a defnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu a hyder wrth ryngweithio â chleientiaid.
  • Agwedd ragweithiol at waith, a’r gallu i nodi a helpu’r tîm i fanteisio ar syniadau ar gyfer effaith a chyfleoedd i’r cwmni a chleientiaid.
  • Y gallu i ddefnyddio pecynnau TG Office safonol yn ogystal â dysgu meddalwedd newydd (fel SPSS, JASP neu STATA – bydd profiad o ddefnyddio R neu Python yn fanteisiol).
  • Sgiliau trefnu da a’r gallu i weithio’n annibynnol yn ogystal â fel rhan o dîm.
  • Parodrwydd a gallu i wneud rhywfaint o deithio ledled Cymru a’r DU ac i weithio oriau anghymdeithasol achlysurol, weithiau’n cynnwys aros dros nos.

Mae pobl wahanol yn rhannu gwerthoedd gwahanol:

Yn Grasshopper, pan fydd pobl dalentog yn cydweithio, credwn fod pethau gwych yn bosibl. Mae Grasshopper yn cyflogi pobl sydd â sgiliau profedig a meddyliau agored. Rydym yn cymryd camau bwriadol i greu diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar ein pwrpas i lunio byd gwell.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol, ac unrhyw nodwedd warchodedig arall.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cam o’n proses recriwtio yn hygyrch i ymgeiswyr ag anableddau. Siaradwch â Deb a bydd hi’n gweithio gyda chi i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gallwch berfformio ar eich gorau trwy gydol eich cais.

Yn Grasshopper rydym yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau pawb yn wahanol ac mae cael y rhyddid i ystwytho’r ffordd rydym yn gweithio yn hanfodol i’n llesiant. Os yw hyblygrwydd yn bwysig i chi, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais, a byddwn yn trafod sut y gallai hyn weithio yn eich rôl.

Ymgeisiwch nawr

I wneud cais e-bostiwch eich CV gyda llythyr eglurhaol byr, yn egluro’ch diddordeb yn y rôl i [email protected] erbyn canol dydd ar ddydd Mercher 6ed Rhagfyr.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch, ag Andy ar [email protected]

Dychwelyd i yrfaoedd