Beth mae strategaeth newydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei olygu i chi?
Mae Craig Lawton, Pennaeth Materion Cyhoeddus, yn asesu beth mae ‘Cymru Can’, y strategaeth newydd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn ei olygu i sefydliadau.
Pan gymerodd Derek Walker yr awenau fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Mawrth 2023, ymgymerodd ef a’i dîm â’r dasg anferth o gwrdd ag ymhell dros fil o sefydliadau ac unigolion a chlywed ganddynt.
Mae’r gwaith hwnnw bellach wedi dwyn ffrwyth ym mis Tachwedd eleni gyda lansiad ffurfiol ‘Cymru Can’; strategaeth saith mlynedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hyn yn nodi ei flaenoriaethau allweddol.
Mae pump ‘gorchwyl’ yn yr adroddiad, (i) gweithrediad ac effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (ii) hinsawdd a natur, (iii) iechyd a llesiant, (iv) diwylliant a’r iaith Gymraeg, ac (v) economi llesiant.
Mae’r Comisiynydd, a benodwyd ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru – yn cefnogi ac yn ymgysylltu â chyrff cyhoeddus ac yn gweithio i’w helpu i lunio polisïau yng Nghymru sy’n ystyried goblygiadau hirdymor eu penderfyniadau.
Fodd bynnag, er bod ei waith yn canolbwyntio ar y sector cyhoeddus, dylai sefydliadau o bob math a maint gymryd sylw o ‘Cymru Can.’
Mae’r pump ‘gorchwyl’ – ynghyd â’r naratifau o’r astudiaethau achos niferus y mae’r Comisiynydd yn eu darparu – yn rhoi syniad clir o’r hyn y dylai sefydliadau ei flaenoriaethu a chanolbwyntio arno.
Mae cydweithio yn allweddol, yn ogystal â gweithio ar lefel gymunedol yn hytrach nag ar sail Cymru gyfan yn unig. Ymhellach, bydd y gallu i gefnogi mwy nag un o’r ‘gorchwylion’ trwy brosiectau a gwaith hefyd yn cael ei groesawu’n fawr gan y Comisiynydd.
Yn lansiad ‘Cymru Can’, dywedodd y Comisiynydd, “mae angen gweithredu’n feiddgar nawr i fynd â ni ar draws y llinell derfyn” a bod ganddo uchelgais i “Gymru deimlo’n wahanol.”
Gyda’r Comisiynydd yn chwarae rhan hollbwysig yn natblygiad polisïau’r dyfodol yng Nghymru, dylai sefydliadau a busnesau o bob math a maint sy’n gweithio ledled Cymru gymryd sylw o gyngor y Comisiynydd wrth iddynt hwythau hefyd geisio datblygu eu strategaethau a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.