{"id":451,"date":"2022-05-24T08:38:52","date_gmt":"2022-05-24T08:38:52","guid":{"rendered":"http:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/?p=451"},"modified":"2022-06-06T13:21:27","modified_gmt":"2022-06-06T13:21:27","slug":"cymraeg-covid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/","title":{"rendered":"Cymraeg + COVID = ?"},"content":{"rendered":"<h3>Datblygiadau positif<\/h3>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Priodas sydyn oedd hi efallai rhwng y pandemig a thechnoleg o bell, ond cafodd effaith bositif iawn ar oedolion sy\u2019n ddysgwyr. Mae adran Cymraeg i Oedolion Coleg Gwent yn dweud bod \u2018symud i ddysgu ar-lein wedi cynyddu niferoedd dysgwyr gan 25% ar ein cyrsiau wythnosol a bron 75% ar ein cyrsiau atodol fel y Sadyrnau Siarad a\u2019r cyrsiau penwythnos\u2019.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer y bobl sy\u2019n dysgu Cymraeg ar Duolingo \u2013 cododd nifer y dysgwyr Cymraeg newydd sy\u2019n defnyddio\u2019r ap gan 44% yn 2020, sy\u2019n ei gwneud yr iaith sy\u2019n tyfu gyflymaf yn y DU. Yn wir, yn y cyfnod 3 mis ers Hydref 2020, roedd ffigurau Duolingo am y Gymraeg 100,000 yn uwch ac erbyn hyn mae\u2019r ap wedi alinio cynnwys cyrsiau \u00e2\u2019r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Bydd ffigurau cenedlaethol ar gael pan fydd y flwyddyn academaidd yma drosodd ond roedd ffigurau 2019-2020 i fyny 32% ar y flwyddyn flaenorol yn barod er bod y rhan fwyaf ohoni hi cyn y pandemig. Ar sail y tueddiadau hyn, mae\u2019n deg disgwyl codiad arall yn y ffigurau cenedlaethol ar gyfer 2020-21. O safbwynt dysgu anffurfiol, mae Coleg Gwent yn adrodd y ffigurau uchaf erioed am ei glybiau sgwrsio a chlybiau llyfrau er nad oes cynifer ohonyn nhw\u2019n digwydd ar-lein. Mae mynychu sesiynau o gysur eich cartref eich hun heb orfod teithio yn golygu bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae dysgu wedi dod yn fwy hygyrch. Bydd darpariaeth rithiol yn elfen allweddol yn y dyfodol wrth i gyfuniad o ddysgu\u2019n bersonol ac ar-lein ddod yn norm mwy effeithiol, mae pobl yn ei ffafrio. Fel hwylusydd clwb sgwrsio wythnosol* rwy\u2019n gallu tystio i gyfleustra sesiynau rhithwir, er y byddai\u2019n eithaf braf gadael y t\u0177 am cappuccino a thafell o deisen foron bob hyn a hyn. Felly, diolch byth am y sector addysg oedolion, priodas fantais a fu\u2019n llwyddiannus.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mewn newyddion positif eraill roedd codiad o 182% yn nifer cyfartalog gwylwyr rhaglenni plant S4C ers dechrau\u2019r cyfnod clo ac ymatebodd RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) i ddymuniadau rhieni drwy sefydlu gwefan newydd, Welsh4Parents.cymru, i gasglu adnoddau ynghyd mewn un man canolog i helpu a chefnogi dysgu a defnyddio\u2019r Gymraeg yn y cartref.<\/span><\/p>\n<h3>Datblygiadau negyddol<\/h3>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">I\u2019r rhan anodd: effaith Covid19 ar addysg Cyfrwng Cymraeg ac ar y Gymraeg yn y gymuned.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Gan ysgrifennu o safbwynt breintiol siaradwr rhugl a oedd yn gallu cynnal yr iaith gartref trwy gydol y ddau gyfnod clo, rwy\u2019n gweld pa mor anodd mae\u2019n rhaid ei bod hi i blant o deuluoedd di-Gymraeg yn ystod y pandemig. Ar ein teithiau cerdded dyddiol y cyfnod hwnnw, byddwn i\u2019n dod ar draws rhieni yn gwneud eu gorau glas i gefnogi addysg Cyfrwng Cymraeg eu plant ar yr un pryd ag ymdopi \u00e2\u2019u gyrfaoedd eu hun. Gwnaethan nhw\u2019n aruthrol o dan yr amgylchiadau, ond mae\u2019n dal yn wir, i blant o aelwydydd di-Gymraeg, bod y trochi sy\u2019n cael ei ddarparu gan eu hysgol yn hanfodol bwysig i ennill rhugledd a chymhwysedd ieithyddol a\u2019u cadw. Mewn rhai achosion eithafol bu\u2019r her yn ormod, a throsglwyddodd dyrnaid o blant i ysgolion cyfrwng Saesneg. Cafodd arolwg <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2021-03\/survey-of-effect-of-covid-19-on-learners-2020-results-summary.pdf\">Llywodraeth Cymru<\/a> o ddysgwyr presennol 16 oed neu\u2019n h\u0177n ar ddiwedd 2020 6,088 o ymatebion, 15% ohonyn nhw\u2019n rhugl yn y Gymraeg. Roedd y mwyafrif (79%) yn fodlon ar argaeledd adnoddau Cymraeg ond nid yw hynny\u2019n ymdrin \u00e2 sut gwnaethan nhw ymdopi \u00e2 cholli\u2019r profiad trochi.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">I unrhyw un \u00a0 dan 16 oed yn Ne-ddwyrain Cymru, lle mae\u2019r mwyafrif o ddisgyblion Cyfrwng Cymraeg yn \u00a0 dod o deuluoedd di-Gymraeg, roedd effeithiau canlyniadol y cyfnod clo i\u2019w \u00a0 clywed adeg ailagor ysgolion ym Mawrth ac Ebrill. Ychydig iawn o Gymraeg oedd \u00a0 yn cael ei defnyddio yn iard yr ysgol a dechreuodd proses o adennill yr iaith. \u00a0 Ychydig o fisoedd wedi hynny, mae pethau\u2019n gwella\u2019n araf deg \u2013 mae mwy o Gymraeg yn \u00a0 ystod amser chwarae \u2013 ond dwedodd un gweithiwr proffesiynol addysg gynradd \u00a0 wrthyf fi y bydd yn cymryd hyd at flwyddyn i adfer y cynnydd blaenorol.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Gan symud i ffwrdd o addysg, ond yn aros gyda\u2019n pobl ifanc, mae effeithiau cymdeithasol creulon dau gyfnod clo wedi cael eu teimlo mewn llawer man, o gylchoedd chwarae Cymraeg sy\u2019n porthi i mewn i Gylchoedd Meithrin i glybiau ieuenctid Cymraeg, i ganolfannau antur awyr agored Cymraeg ac i Eisteddfod yr Urdd yn symud ar-lein dwy flynedd yn olynol, mae ein siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ifanc wedi cael eu hamddifadu o\u2019r cyfle i ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn y gymuned, yn ystod gweithgareddau difyr, chwaraeon, ac yn y celfyddydau. Er i\u2019r Mudiad Meithrin, yr Urdd a phob Menter Iaith wneud gwaith bendigedig wrth symud pethau ar-lein, \u2018dyw hynny jest ddim yr un peth.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">I ni oedolion, \u00a0 pwy sydd am fod ar eu cyfrifiadur drwy\u2019r dydd ac yna ymuno \u00e2 \u00a0 digwyddiad cymdeithasol ar-lein gyda\u2019r hwyr? Cafodd fy nghyfarfod Clwb Gwawr \u00a0 misol lleol eu lleihau i achlysur cadeiriau plygu ar bellter cymdeithasol yn \u00a0 y parc a chwrdd Nadolig arbennig rhithiol. Rydyn ni wedi colli gwyliau di-rif \u00a0 \u2013 yr Eisteddfod Genedlaethol, gwyliau cerdd, sioeau amaethyddol, yr holl \u00a0 leoedd lle allai\u2019r Gymraeg gael ei siarad a\u2019i dathlu. Cafodd digwyddiadau lleol \u00a0 iawn, enaid cymuned yn aml, eu difetha. Nid yw \u00a0 fy rhieni, yn eu \u2018blynyddoedd euraid\u2019 erbyn hyn, wedi\u2019u cysylltu\u2019n ddigidol ac \u00a0 yn y b\u00f4n \u00a0 wedi cael eu gwahanu rhag eu holl weithgareddau Cymraeg. O leiaf roedden \u00a0 nhw\u2019n cael siarad \u00e2\u2019i gilydd?!<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn olaf, i \u00a0 drafod mater pobl yn symud o ardaloedd trefol i gadarnleoedd gwledig y Gymraeg \u00a0 a\u2019i effaith ar y farchnad dai ac yn ddiofyn ar y Gymraeg. Nawr dyna agwedd swmpus \u00a0 ar effaith Covid. Yn anffodus\/ ffodus, mae gan flogiau gyfyngiad o 1,000 o \u00a0 eiriau ac well i mi stopio cyn codi\u2019r ysgyfarnog benodol honno. Tro arall\u00a0 efallai.<\/span><\/p>\n<h3>Y tro nesaf<\/h3>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn ail ran y gyfres yma, edrychwn ar sut mae pawb yng Nghymru yn gallu cefnogi\u2019r ymdrech i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">*Mae clwb \u00a0 sgwrsio prynhawn Gwener Bethan i ddysgwyr canolradd ac uwch \u2018Siawns am Sgwrs\u2019 \u00a0 i\u2019w weld yn adran digwyddiadau Duolingo, yn ystod y tymor, neu gallwch chi \u00a0 anfon e-bost ati yn: <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Bethan.Harrington@coleggwent.ac.uk<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>It may have been a sudden marriage between the pandemic and remote technology but it had an extremely positive effect on adult learners.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":452,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[],"class_list":["post-451","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO Premium plugin v23.1 (Yoast SEO v23.1) - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cymraeg + COVID = ? - Grasshopper - Welsh<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cymraeg + COVID = ?\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"It may have been a sudden marriage between the pandemic and remote technology but it had an extremely positive effect on adult learners.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Grasshopper - Welsh\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-05-24T08:38:52+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-06-06T13:21:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"880\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"495\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/\",\"url\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/\",\"name\":\"Cymraeg + COVID = ? - Grasshopper - Welsh\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg\",\"datePublished\":\"2022-05-24T08:38:52+00:00\",\"dateModified\":\"2022-06-06T13:21:27+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg\",\"width\":880,\"height\":495},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cymraeg + COVID = ?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/\",\"name\":\"Grasshopper - Welsh\",\"description\":\"Just another Grasshopper site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"\",\"url\":\"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/author\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO Premium plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cymraeg + COVID = ? - Grasshopper - Welsh","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cymraeg + COVID = ?","og_description":"It may have been a sudden marriage between the pandemic and remote technology but it had an extremely positive effect on adult learners.","og_url":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/","og_site_name":"Grasshopper - Welsh","article_published_time":"2022-05-24T08:38:52+00:00","article_modified_time":"2022-06-06T13:21:27+00:00","og_image":[{"width":880,"height":495,"url":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/","url":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/","name":"Cymraeg + COVID = ? - Grasshopper - Welsh","isPartOf":{"@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg","datePublished":"2022-05-24T08:38:52+00:00","dateModified":"2022-06-06T13:21:27+00:00","author":{"@id":""},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#primaryimage","url":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg","contentUrl":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/05\/grs8.jpeg","width":880,"height":495},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/cymraeg-covid\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cymraeg + COVID = ?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/","name":"Grasshopper - Welsh","description":"Just another Grasshopper site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Person","@id":"","url":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/author\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/451","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=451"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/451\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":454,"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/451\/revisions\/454"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/452"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=451"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=451"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/grasshopper-comms.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=451"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}