Gweithredwr Cyfrif Materion Cyhoeddus

Gweithio hybrid – lleiafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos yn ein swyddfa yng Nghaerdydd 

Rydym yn chwilio am rywun sydd â meddylfryd twf sydd â’r brwdfrydedd a’r egni cywir, sy’n edrych i ddatblygu eu profiad mewn materion cyhoeddus a chyfathrebu. Nid oes angen unrhyw brofiad ymgynghori arnoch, ond mae angen i chi fod â gwir ddiddordeb mewn materion cyfoes, polisi a gwleidyddiaeth Cymru. 

Amdanom ni 

Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn ag ochr greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn creu ymgyrchoedd sy’n newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, parhaol. Rydym yn helpu llunio sgyrsiau am y byd o’n cwmpas. Boed yn deithio llesol, ynni adnewyddadwy neu dechnolegau carbon isel.   

Fel tîm, rydym wedi’n huno gan nod cyffredin – cael pobl i siarad a datgloi gwerth cymdeithasol. Sy’n gwneud dod i’r gwaith yn ystyrlon, yn ysbrydoledig ac yn hwyl.  

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano 

Mae hwn yn gyfle i weithredwr cyfrif ymuno â thîm sy’n tyfu ac sy’n symud yn gyflym i’n helpu ag ymchwil wleidyddol, monitro, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfathrebu, gan roi profiad a mewnwelediadau gwerthfawr i chi.  

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm; rhywun ag agwedd bositif, sy’n hoffi neidio i mewn a chymryd rhan. Dyma flas o’r math o waith y byddwch chi’n ymwneud ag ef: 

Materion Cyhoeddus 

  • Monitro gwleidyddol o Lywodraeth Leol, y Senedd a San Steffan  
  • Drafftio nodiadau briffio gwleidyddol  
  • Ymchwil i wleidyddion a pholisïau  
  • Cydlynu cyfarfodydd a digwyddiadau yn y Senedd, ar-lein ac o gwmpas Cymru 

Ymgysylltu â rhanddeiliaid  

  • Helpu ag ymchwil i randdeiliaid a drafftio adroddiadau  
  • Cofnodi ymholiadau rhanddeiliaid ar ein system rheoli rhanddeiliaid 
  • Cyfrannu at strategaethau ymgysylltu 

Monitro ac ymchwil 

  • Coladu gwybodaeth a nodi themâu allweddol 
  • Ysgrifennu adroddiadau yn crynhoi materion a chyflwyno data a thystiolaeth 
  • Monitro gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol ynghylch materion penodol 
  • Monitro sylw yn y cyfryngau a choladu adroddiadau 

Pecyn tâl a buddion  

  • Cyflog: £21K cyfwerth ag amser llawn, pro rata yn dibynnu ar yr oriau y cytunwyd arnynt.  
  • Bonws blynyddol (yn amodol ar berfformiad y cwmni)  
  • Dull gweithio hyblyg ag oriau craidd 10am-3pm  
  • Dau ddiwrnod y flwyddyn yn gwirfoddoli â thâl i helpu eich cymuned leol  
  • Cynllun pensiwn gweithle  
  • Hyfforddiant a DPP.  

Mae gwahanol bobl yn rhannu gwerthoedd gwahanol 

Yn Grasshopper, pan fydd pobl dalentog yn cydweithio, credwn fod pethau gwych yn bosibl. Rydym yn cymryd camau bwriadol i greu diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar ein pwrpas i lunio byd gwell. 

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol, ac unrhyw nodwedd warchodedig arall.  

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cam o’n proses recriwtio yn hygyrch i ymgeiswyr ag anableddau. Siaradwch â ni a byddwn yn gweithio gyda chi i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gallwch chi berfformio ar eich gorau trwy gydol eich cais. 

Yn Grasshopper rydym yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau pawb yn wahanol ac mae cael y rhyddid i ystwytho’r ffordd rydym yn gweithio yn hanfodol i’n llesiant. Os yw hyblygrwydd yn bwysig i chi, neu os oes gennych ddiddordeb mewn rôl ran-amser, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais, a byddwn yn trafod sut y gallai hyn weithio. 

Ymgeisiwch nawr

I wneud cais e-bostiwch eich CV gyda llythyr eglurhaol byr, yn egluro eich diddordeb yn y rôl i [email protected] erbyn 5pm dydd Llun 4 Rhagfyr Medi 2023. 

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Craig ar [email protected] 

Dychwelyd i yrfaoedd